NDM7000 - Dadl Plaid Cymru - Yr ymgyrch menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth

NDM7000 - Dadl Plaid Cymru - Yr ymgyrch menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth

NDM7000 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod ymgyrch barhaus menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth;

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg i bob menyw a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951, sydd wedi gorfod ysgwyddo baich y cynnydd yn annheg, o ran oedran pensiwn y wladwriaeth (SPA) gyda diffyg hysbysiad priodol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymgyrch WASPI.

4. Yn galw ar y Cwnsler Cyffredinol i ystyried pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd mewn perthynas â'r ymgyfreitha disgwyliedig yn erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau am y camdrafod honedig o godi oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod a aned yn y 1950au.

 

Cefnogwr
David Rowlands (Dwyrain De Cymru)

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwyntiau 2 a 4 ac ailrifo'n unol â hynny.

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Llywodraethau olynol y DU wedi cyfathrebu gyda menywod yr effeithiwyd arnynt ers y newidiadau i oedran pensiwn menywod ers Deddf Pensiynau 1995 a Deddf Pensiynau 2007 a bod ymgynghoriad cyhoeddus a dadleuon helaeth wedi cael eu cynnal yn y Senedd o ran cynnydd ychwanegol i oedran pensiwn y wladwriaeth yn 2011.

'Deddf Pesiynau 1995' (Saesneg yn unig)

'Deddf Pensiynau 2007' (Saesneg yn unig)

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2021

Angen Penderfyniad: 20 Maw 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS