NDM6999 Dadl Plaid Cymru - Y Cwrdaidd yn Nhwrci
NDM6999 Dadl Plaid Cymru - Y Cwrdaidd yn Nhwrci
NDM6999 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi, er bod materion tramor yn fater a gedwir i
Lywodraeth a Senedd y DU ar hyn o bryd, mae adran 62 o Ddeddf Llywodraeth Cymru
2006 yn darparu: "“The Welsh Ministers, the First Minister and the Counsel
General may make appropriate representations about any matter affecting Wales”.
2. Yn cydnabod y gymuned Cwrdaidd sylweddol yng Nghymru.
3. Yn nodi bod preswylydd o Gymru - İmam Sis, dyn
Cwraidd ifanc - ar streic newyn amhenodol, ddigyfaddawd o 17 Rhagfyr 2018, a
ddechreuwyd i brotestio yn erbyn ynysu'r arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan
sydd wedi'i garcharu gan Dwrci ers 1999 o dan amodau sydd, yn ôl pob deall, yn
mynd yn groes i rwymedigaethau cyfreithiol gwladwriaeth Twrci mewn perthynas â
hawliau dynol.
4. Yn nodi bod streiciau newyn yn digwydd ledled Ewrop
a'r byd, gan gynnwys gan Leyla Güven, aelod etholedig o Senedd Twrci.
5. Yn nodi bod Twrci yn un o lofnodwyr sawl cytuniad
hawliau dynol rhyngwladol, gan gynnwys y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
fel aelod o Gyngor Ewrop.
6. Yn mynegi ei bryder ynghylch y rhesymau dros y
streiciau newyn.
7. Yn cydnabod mai nod y streiciau newyn yn y pen draw yw
gweld ateb heddychlon, gwleidyddol i'r cwestiwn Cwrdaidd yn Nhwrci.
8. Yn cadarnhau pwysigrwydd cynnal rhwymedigaethau
hawliau dynol yn Nhwrci.
9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, ar ran Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, i ysgrifennu at y Pwyllgor i Atal Artaith a Thriniaeth
Annynol neu Ddiraddiol neu Gosb yn galw ar y Pwyllgor i ymweld â Charchar
Imrali i asesu amodau Abdullah Öcalan.
Deddf
Llywodraeth Cymru 2006 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 3, dileu 'ynysu'r arweinydd Cwrdaidd' a rhoi yn
ei le 'ynysu arweinydd Cwrdaidd y PKK (Plaid Gweithwyr Cwrdistan)'.
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn
unol â hynny:
Yn nodi bod y PKK yn sefydliad terfysgol a waharddwyd yn
y DU, yr Undeb Ewropeaidd, ac Unol Daleithiau America.
Yn condemnio pob gweithred derfysgol a gyflawnir gan y
PKK ac yn cydnabod y dioddefwyr a'r sifiliaid a laddwyd ac a gafodd eu dal yn
eu hymosodiadau.
Yn cydnabod hawl Twrci i amddiffyn ei hun rhag
ymosodiadau terfysgol gan y PKK.
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 7 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod mai nod o streicwyr newyn yw galluogi
Abdullah Öcalan i gael gafael ar gynrychiolaeth gyfreithiol a chysylltu â'i
deulu.
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 8 ac ailrifo'n unol â
hynny:
Yn nodi fod Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth y DU a
Llysgennad EM â Thwrci wedi pwysleisio wrth Lywodraeth Twrci yr angen i barchu
hawliau dynol, osgoi anafu sifiliaid a dychwelyd at y broses heddwch.
Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yy galw ar y PKK i roi'r gorau i derfysgaeth fel modd o
hybu ei amcanion a dychwelyd at y broses heddwch.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2021
Angen Penderfyniad: 20 Maw 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS