P-05-868 Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru
P-05-868 Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru
P-05-868:
Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i'w haddysgu ym
mhob Ysgol yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Carmarthenshire Water Safety
Partnership. Llofnodion i’w cadarnhau, ar ôl casglu 394 o lofnodion ar-lein a
502 ar bapur – cyfanswm o 896 lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnwys Diogelwch Dŵr/Atal
Boddi ac effeithiau sioc dŵr oer i'w haddysgu drwy'r cwricwlwm
cenedlaethol yng Nghymru.
Yn 2016, gwelsom lansiad y strategaeth diogelwch dŵr
gyntaf erioed yn y DU, sy'n anelu at leihau 50% o farwolaethau sy'n
gysylltiedig â dŵr erbyn 2026. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar gydweithio,
ymwybyddiaeth, addysg ac atal. Mae angen i Gymru ymateb i'w chefnogi.
Mae teuluoedd Cameron Comey, Luke Somerfield, Kieran
Bennett-Leefe, Robert Mansfield a Jem Pendragon oll yn cefnogi'r ddeiseb hon er
cof am eu meibion a gollwyd mewn dŵr.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae cannoedd o oedolion a phlant yn boddi'n ddamweiniol
bob blwyddyn yn y DU ac Iwerddon, ac mae Cymru, gyda'i hafonydd a'i llynnoedd
niferus a'i harfordir gwyllt yn dioddef hefyd. Mae addysg ac atal yn allweddol
i ddiogelu ein cymunedau rhag achosion diangen o foddi.
Mae'r ddeiseb hon hefyd yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau
iach ac addysgedig ar lawer o'n dyfrffyrdd agored yng Nghymru drwy hyrwyddo
digwyddiadau yn genedlaethol ac yn lleol, lle gall pobl ifanc a'r cyhoedd gael
mynediad at ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu er mwyn cymryd rhan mewn
digwyddiadau cymdeithasol, gweithgar a diogel gyda chlybiau/sefydliadau sy'n
ymwneud â gweithgareddau dŵr.
Rydym hefyd yn cydnabod bod toriadau gan awdurdodau lleol
i hygyrchedd nofio i bob disgybl (drwy bwysau llywodraeth ganolog) a
Bagloriaeth Cymru newydd ar ddiogelwch dŵr yn fwlch rhy eang i sicrhau
neges addysgol gyson i bawb. Mae gan Gymru dair strategaeth fras (Ein Dyfodol
Iach, Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol) sydd â
chysylltiadau ag atal anafiadau, ac felly lleihau boddi.
Cefnogir y ddeiseb hon gan lawer o bartneriaid gan
gynnwys: pum teulu i ddynion ifanc a foddodd yng ngorllewin Cymru, Bad Achub
Glan-y-fferi, Jonathan Edwards AS, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Rebecca
Ramsey (ymgyrchydd dros addysg diogelwch dŵr yn Lloegr), Grŵp
Diogelwch Dŵr Cymru Gyfan, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin
Cymru, Simon Hart AS, Cyngor Tref Caerfyrddin, y Gymdeithas Cyryclau a
Physgotwyr Rhwydi, Clwb Canŵio Padlwyr Cwm Gwendraeth, Gorsaf Heddlu
Rhydaman, Clwb Cychod Caerfyrddin, Tîm Achub Mynydd Aberhonddu, Gwylwyr y
Glannau Llansteffan, Angela Burns AC, Fferïau Bae Caerfyrddin, Canolfan Ganŵio
Padlwyr Llandysul, i enwi rhai.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb
ac, yng ngoleuni’r bwriad i lansio Strategaeth Diogelwch Dŵr Cymru a gan
fod safbwynt Llywodraeth Cymru ar natur anrhagnodol y Cwricwlwm newydd i Gymru
yn glir, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar y
ddeiseb ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/04/2019.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
- Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
- Canolbarth a
Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/03/2019