Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud gwaith craffu ar ôl deddfu byr gyda ffocws ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.
Bwriad Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 oedd:
(a) “sicrhau trefn reoleiddio gadarn a chymesur ar gyfer sefydliadau yng Nghymru y mae eu cyrsiau'n cael eu cefnogi gan grantiau a benthyciadau Llywodraeth Cymru;
(b) diogelu'r cyfraniad a wneir at les y cyhoedd sy'n deillio o gymhorthdal ariannol Llywodraeth Cymru tuag at addysg uwch;
(c) canolbwyntio'n gryf ar sicrhau bod addysg uwch ar gael i bawb yn ddiwahân; a
(d) chadw a diogelu annibyniaeth sefydliadol a rhyddid academaidd prifysgolion.”
Mae'r Pwyllgor yn ymwybodol bod gwaith ar ddiwygio Addysg, Hyfforddiant ac Ymchwil Ôl-orfodol (PCETR) arfaethedig Llywodraeth Cymru wedi datblygu'n dda.
Felly, mae'n awyddus i ddeall pa mor dda y mae Deddf 2015 yn gweithio, a pha wersi y gellir eu dysgu o'r Ddeddf, cyn cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth newydd.
Er mwyn gwneud hyn, bydd y Pwyllgor yn ystyried y canlynol:
Er gwybodaeth, nid nod yr ymchwiliad yw ailagor y dadleuon polisi a ddigwyddodd wrth basio’r Bil. Yn hytrach, y nod eang yw deall a yw’r Ddeddf a’r ffordd y’i gweithredir wedi cyflawni’r amcanion a nodwyd, y costau a’r effaith a fwriadwyd yn effeithiol ac yn effeithlon.
Sesiwn dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a Chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Estyn a Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru David Blaney, Prif Weithredwr - CCAUC Bethan Owen, Dirprwy Brif Weithredwr - CCAUC Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd EM – Estyn Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol - Estyn
|
|||
2. Prifysgolion Cymru Yr Athro Julie Lydon, Cadeirydd Prifysgolion Cymru Yr Athro Elizabeth Treasure, Dirprwy Gadeirydd-Prifysgolion Cymru Ben Arnold, Cynghorydd Polisi, Prifysgolion Cymru |
|||
3. ColegauCymru Maggie Griffiths, Pennaeth Cynorthwyol - Grŵp Llandrillo Menai (trwy Gynhadledd Fideo) Emil Evans, Dirprwy Bennaeth - Coleg Caerdydd a'r Fro Mike Williams, Pennaeth Cynorthwyol - Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion |
|||
4. Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru) ac Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) Margaret Phelan, Swyddog UCU Cymru Dr Bethan Winter, Swyddog Polisi a Chyfathrebu - UCU Rob Simkins, Llywydd - UCM Cymru Joni Alexander, Cyfarwyddwr Dros Dro - UCM Cymru |
|||
5. Llywodraeth Cymru Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg Huw Morris, Huw Morris, Cyfarwyddwr y Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru
|
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/03/2019