Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu

Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu

Inquiry5

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ymchwiliad byr i iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu, i asesu pa mor effeithiol y mae heddluoedd yng Nghymru yn gweithio gyda phartneriaid i atal pobl agored i niwed â phroblemau iechyd meddwl rhag mynd i ddalfeydd yr heddlu, a pha mor effeithiol y mae heddluoedd yng Nghymru yn adnabod ac yn ymateb o ran y bobl hynny a gaiff eu cadw yn nalfeydd yr heddlu.

Er nad yw’r cyfrifoldeb cyffredinol dros blismona wedi’i ddatganoli, mae’r heddlu’n ymateb i amrywiaeth eang o sefyllfaoedd posibl, gan gynnwys diogelu pobl sy’n agored i niwed sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl. O gofio hyn, mae’n hollbwysig bod swyddogion a staff yr heddlu, os ydynt yn gweithio ar y rheng flaen neu yn y ddalfa, yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau datganoledig fel y gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau bod anghenion y bobl hyn sy’n agored i niwed yn cael eu diwallu.

Fel rhan o’i waith ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, ysgrifennodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar 11 Gorffennaf 2022 i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion Pwyllgor y Pumed Senedd. Ymatebodd y Gweinidogion ar 31 Ionawr 2023.

Y cefndir

Yn ystod dau ymchwiliad diweddar gan bwyllgorau’r Senedd (sef  Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc ac Atal Hunanladdiad), mae Aelodau’r Senedd wedi clywed gan gynrychiolwyr yr heddlu bod swm cynyddol o adnoddau’r heddlu yn cael eu defnyddio i reoli argyfyngau iechyd meddwl.

Iechyd Meddwl a phlismona

Mae’r Concordat Gofal Mewn Argyfwng Iechyd Meddwl yn gytundeb cenedlaethol rhwng asiantaethau iechyd, asiantaethau cyfiawnder troseddol ac asiantaethau gofal cymdeithasol sy’n nodi sut y bydd gwasanaethau ac asiantaethau sy’n ymwneud â gofal a chymorth i bobl mewn argyfwng iechyd meddwl yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu’r cymorth angenrheidiol. Mae’n cynnwys trefniadau ar gyfer rhagor o waith ar y cyd a rhannu gwybodaeth yn well rhwng asiantaethau.

Dalfa’r heddlu

Mae Arolygon o ddalfeydd yr heddlu yng Nghymru wedi dangos, yn gyffredinol, bod y ddarpariaeth gofal iechyd yn dda. Mae tystiolaeth hefyd yn sgîl arolygon ar y cyd o ddalfeydd yr heddlu bod gweithio mewn partneriaeth yn gwella, gan gynnwys gwaith ar y cyd i fynd i’r afael â phryderon am bobl a gedwir dan adran 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl sy’n cael eu rhoi yn y ddalfa.

Mae adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn galluogi swyddog heddlu i symud unigolyn o fan cyhoeddus, pan mae’n nhw’n credu bod yr unigolyn yn dioddef o anhwylder meddwl a bod arno angen gofal a rheolaeth ar unwaith, ac i’w gludo i fan diogel, er enghraifft, cyfleuster iechyd neu gyfleuster gofal cymdeithasol. Mewn amgylchiadau eithriadol (er enghraifft, pe bai ymddygiad y person yn peri risg uchel, na ellir ei reoli, i eraill), gall y man diogel fod yn ddalfa’r heddlu. Mae Adran 136 hefyd yn nodi mai pwrpas cadw person yw, i’w alluogi i gael ei asesu gan feddyg a gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol cymeradwy (er enghraifft, gweithiwr cymdeithasol neu nyrs wedi’i hyfforddi’n arbennig), ac i wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol ar gyfer triniaeth neu ofal ar gyfer yr unigolyn.

Yr hyn a wyddom ar sail adroddiadau arolygu yw bod rhai pobl yn cael eu cadw yn y ddalfa oherwydd eu bod yn berygl iddynt hwy eu hunain neu i eraill, nid oherwydd eu bod wedi cyflawni trosedd. Mae llawer o’r achosion hyn yn cynnwys plant, pobl â phroblemau iechyd meddwl, neu bobl hŷn sy’n dioddef o ddementia. Mae’r heddlu bron yn gwbl ddibynnol ar asiantaethau eraill, sef y gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol yn bennaf, i ddarparu gwasanaethau sy’n dargyfeirio pobl mewn gwendid i ffwrdd o’r ddalfa, neu i ddarparu mesurau diogelu pan fydd pobl agored i niwed yn y ddalfa (fel gofal iechyd, neu lety arall ar gyfer plant).

Sesiynau tystiolaeth

 

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Kate Chamberlain, Prif Weithredwr, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Rhys Jones, Pennaeth Uwchgyfeirio a Gorfodi, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

04 Ebrill 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

2. Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu

Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jonathon Drake, Arweinydd Rhanbarthol Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu

04 Ebrill 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

3. cynrychiolwyr y Byrddau Iechyd Lleol

Richard Jones, Pennaeth Arloesi Clinigol a Strategaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Ian Wile, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Philip Lewis, Pennaeth Nyrsio Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Dr Chris O’Connor, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr yr Is-adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

04 Ebrill 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

4. Cadeirydd Grŵp Sicrwydd Concordat Gofal Mewn Argyfwng Iechyd Meddwl

Sara Moseley, Cadeirydd Grŵp Sicrwydd Concordat Gofal Mewn Argyfwng Iechyd Meddwl

04 Ebrill 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

5. Llywodraeth Cymru

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Joanna Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru

Matt Downton, Pennaeth yr Is-adran Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed, Llywodraeth Cymru

04 Ebrill 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/02/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau