NNDM6958 - Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin
NNDM6958 - Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin
NNDM6958 Rebecca
Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn condemnio Llywodraeth y DU am fethu â chynnal
negodiadau ystyrlon ynghylch y cytundeb i ymadael â'r UE ar sail drawsbleidiol
ac yn nhermau trafodaethau diffuant â'r gweinyddiaethau datganoledig.
2. Yn pwysleisio unwaith eto y byddai ymadael heb gytundeb
yn drychinebus i Gymru ac y dylai Llywodraeth a Senedd y DU wneud popeth o fewn
eu grym i atal sefyllfa o ymadael heb gytundeb, gan gynnwys gofyn am ymestyn
dyddiad ymadael Erthygl 50.
3. Yn credu os, fel yr ymddengys ar hyn o bryd, nad oes
modd i Senedd y DU uno i gefnogi cynnig gwahanol sy'n cynnwys cymryd rhan yn y
farchnad sengl ac mewn undeb tollau, yna'r unig opsiwn sydd ar ôl yw dychwelyd
y penderfyniad at y bobl; ac yn credu y dylid dechrau gweithio ar unwaith i
baratoi am bleidlais gyhoeddus.
4. Yn credu y dylai Senedd y DU fynd ati, ar unwaith, i
drafod mwy gyda'r gweinyddiaethau datganoledig am y materion hyn.
Cyd-gyflwynwyr
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod safbwynt bresennol Llywodraeth y DU o
ran ymadael â'r UE yn negyddu canlyniad y refferendwm yn sylweddol, gan gadw'r
DU yn yr undeb tollau am gyfnod amhenodol ac, i bob pwrpas, yn y farchnad
sengl, gan ein hamddifadu o unrhyw lais ffurfiol neu bleidlais ym
mhenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dynnu ei safbwynt yn ôl
o ran yr hyn â nodir yn "Diogelu Dyfodol Cymru," a ysgrifennwyd ar y
cyd â Phlaid Cymru, gan fod hyn hefyd yn anwybyddu ewyllys pobl y DU, a Chymru,
a bleidleisiodd yn bendant i adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn cymeradwyo ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb
gytundeb, heb unrhyw estyniad i Erthygl 50, ac o dan delerau Sefydliad Masnach
y byd.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i achub
ar y cyfle i adfer sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu allan i'r Undeb
Ewropeaidd.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i
dderbyn ein bod yn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd ar 29 Mawrth
2019, ac i ganolbwyntio pob ymdrech, bellach, ar baratoi at y canlyniad hwn.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso dirprwyaeth
seneddol i gael ei hanfon ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gwrdd â
chynrychiolwyr seneddol a chynrychiolwyr y llywodraeth yn San Steffan i
gyflwyno'r achos dros Gymru fel y nodir yn y cynnig hwn.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/01/2019
Angen Penderfyniad: 30 Ion 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd