Gwariant ar staff asiantaeth gan GIG Cymru
Gwariant ar staff asiantaeth gan GIG Cymru
Cyhoeddodd
Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar wariant
ar staff asiantaeth gan GIG Cymru ar 22 Ionawr 2019.
Mae'r adroddiad
'ffeithiau yn unig', yn nodi ffeithiau allweddol am y defnydd gan gyrff y GIG
yng Nghymru, gan gynnwys gwariant, dadansoddiad gan gyrff iechyd o'r rhesymau
sy'n sail i'r gwariant, mentrau cenedlaethol i reoli'r math hwn o wariant; a'r
heriau sydd o'u blaenau.
Mae'r GIG yng
Nghymru yn cyflogi bron 80,00 o staff cyfwerth ag amser llawn (ac eithrio
meddygon teulu a'r rhai a gyflogir yn uniongyrchol gan feddygfeydd teulu) a
gwariodd £3.62 biliwn ar gyflogau yn 2017-18.
Hefyd, mae angen
staff ychwanegol ar GIG Cymru i ategu'r gweithlu amser llawn – pan fo swyddi
allweddol yn wag; pan fo staff yn absennol oherwydd salwch, ar wyliau neu'n
absennol am reswm arall; neu pan fydd y galw am wasanaethau'n cynyddu, er
enghraifft oherwydd pwysau yn y gaeaf. Gellir llenwi'r swyddi hyn drwy oramser
â thâl; staff banc mewnol; asiantaethau'r sector preifat neu bobl sy'n ymrwymo
i gontract uniongyrchol gyda chyrff iechyd ar sail ad hoc.
Mae'r staff a
gyflenwir gan asiantaethau'n tueddu i fod y ffynhonnell ddrutaf o staff dros
dro. Gwariodd cyrff y GIG yng Nghymru dros £160 miliwn ar y cyd ar staff
asiantaeth yn 2016-17, sef mwy na phedair gwaith y ffigur cyfatebol ar gyfer
2012-13. Hefyd, bu cynnydd mawr mewn gwariant asiantaeth yng ngwledydd eraill y
DU.
Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr
adroddiad ym mis Chwefror 2019 a
gofynnodd am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn hyn, holodd y
Pwyllgor fyrddau iechyd a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r gwaith dilynol ar
Weithredu Deddf Cyllid GIG (Cymru) 2014 yn ystod tymor yr haf 2019.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/01/2019
Dogfennau
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor - 27 Chwefror 2020 PDF 585 KB
- Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru - 20 Awst 2019 PDF 284 KB
- Llythyr oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru - 13 Mai 2019 PDF 2 MB
- Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru - 25 Ebrill 2018 PDF 296 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru - 28 Mawrth 2019 PDF 139 KB
- Llythyr gan Gadeirydd Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - 12 Chwefror 2019 PDF 142 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Gadeirydd Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - 7 Chwefror 2019 PDF 142 KB
- Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - Gwariant GIG Cymru ar staff asiantaeth (Ionawr 2019) PDF 2 MB