Symposiwm i randdeiliaid ynghylch 'Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn ysgolion'

Symposiwm i randdeiliaid ynghylch 'Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn ysgolion'

 

Bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn cynnal digwyddiad rhanddeiliad i drafod 'addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn ysgolion' yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 10:30 ac 13:30 ddydd Iau 21 Chwefror. 

 

Y cefndir

Cynhaliodd y Pwyllgor arolwg cyhoeddus yn ystod haf 2018, gan wahodd aelodau o'r cyhoedd i ddewis o restr o bynciau posibl ar gyfer ymchwiliad. Cymerodd bron 2,500 o bobl ran yn yr arolwg, a phleidleisiodd 44 y cant ohonynt dros 'Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn ysgolion'.

Mae llawer o rheini sydd o blaid gweld y Pwyllgor yn cynnal yr ymchwiliad hwn yn dadlau nad yw hanes Cymru yn cael ei addysg o bersbectif Cymreig ac nad oes digon ohono yn y cwricwlwm.

Fodd bynnag, y farn amgen yw bod y manylebau TGAU a Safon UG/U cyfredol eisoes yn rhoi cryn sylw i'r pwnc a chyfleoedd i'w astudio mewn cyfnodau addysg blaenorol. Er enghraifft, dywedodd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, fod llawer mwy o bwyslais yn y Safon Uwch, Safon Uwch Gyfrannol a TGAU hanes newydd ar yr angen i addysgu agweddau ar hanes Cymru i blant.

Felly hoffai'r Pwyllgor ymchwilio ymhellach i'r gwahaniaeth barn sy'n bodoli cyn cytuno ar y cylch gorchwyl ar gyfer ei ymchwiliad.

 

Diben y sesiwn

Mae'r Pwyllgor yn cynnal symposiwm undydd i randdeiliaid er mwyn casglu barn i'w alluogi i ymchwilio i'r dadleuon gwahanol: ar y naill law nad oes digon o ffocws ar y maes hwn, ac ar y llall bod y sefyllfa wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bod y cwricwlwm newydd i Gymru yn ei diogelu. Bydd y symposiwm yn helpu'r Pwyllgor i benderfynu ar y ffordd orau o fwrw ymlaen â'i ymchwiliad yn y maes hwn.

 

Pwyntiau trafod

Bydd y symposiwm yn canolbwyntio ar y pwyntiau trafod a ganlyn (y gallwch eu hystyried cyn y sesiwn):

·         I ba raddau y mae'r cwricwlwm cyfredol a'r manylebau hanes ar gyfer TGAU a Safon U/UG yn sicrhau bod digon o hanes Cymru a/neu hanes o bersbectif Cymreig yn cael ei addysgu mewn ysgolion.

·         A fydd y cwricwlwm newydd i Gymru, sy'n cael ei ddatblygu yn dilyn Adolygiad Donaldson, yn gwella neu'n cyfyngu ar gyfleoedd i ddysgu hanes Cymru a/neu hanes o safbwynt Cymreig.

·         Sut i daro'r cydbwysedd cywir rhwng hyblygrwydd a disgresiwn i weithwyr addysg proffesiynol i gyflwyno cwricwlwm lleol sy'n addas i'w hysgolion penodol a sicrhau cysondeb a sylw digonol i hanes Cymru a phersbectif Cymreig ar yr hyn a addysgir.

·         I ba raddau y mae cyhoedd Cymru ehangach yn ymwybodol o hanes, diwylliant a threftadaeth eu cenedl, ac yn cael cyfleoedd i ddysgu amdanynt.

 

Sut i ymateb

Cofiwch gadarnhau eich diddordeb drwy e-bostio SeneddDGCh@Cynulliad.Cymru neu ysgrifennu at:

Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu,

Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

Bae Caerdydd,

CF99 1NA.

 

Gofynnwn yn garedig i chi roi'r wybodaeth a ganlyn i ni:

1. Enw llawn

2. Enw'r sefydliad rydych yn ei gynrychioli

 

Cofiwch gadarnhau eich diddordeb erbyn dydd Gwener, 1 Chwefror. Pan fyddwch wedi cadarnhau, byddwn yn cysylltu â chi gyda rhagor o fanylion ynglŷn â'r trefniadau ymarferol.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/01/2019