P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd
P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd
P-05-861
Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Kaiesha Ceryn Page,
ar ôl casglu 117 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Dylai addysg roi'r sgiliau a'r offer
i bobl ifanc a fydd yn sicrhau eu bod yn dod yn ddinasyddion gwerthfawr sy'n
ymgysylltu â'r wlad.
Er gwaethaf y datblygiadau mawr sydd wedi
digwydd yn sgil y cyfryngau cymdeithasol a chylchoedd newyddion cyflym, mae
pobl ifanc yn aml yn ystyried gwleidyddiaeth yn bwnc tabŵ, gan ei weld fel
mater nad ydyw i'w tebyg hwy.
Rydym yn credu y dylai pobl ifanc adael
addysg gyda dealltwriaeth gynhwysfawr o sefydliadau gwleidyddol yn y Deyrnas
Unedig. Argymhellodd adroddiad y Gymdeithas Diwygio Etholiadol y dylid addysgu
pedair agwedd allweddol mewn ysgolion – y pleidiau, democratiaeth, rôl
sefydliadau ac ymgyrchu.
Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru
gyfle unigryw i arwain y ffordd ar y mater hwn gan ei bod wrthi'n datblygu ei
chwricwlwm cenedlaethol cyntaf. Fel un o'i bedwar cysyniad allweddol, nod y
cwricwlwm newydd yw creu dinasyddion "moesegol a gwybodus". Felly mae
rheswm yn dweud y dylai addysg wleidyddol fod yn rhan hanfodol o hyn.
Mae datblygiad y cwricwlwm hwn yn gyfle
unigryw i Lywodraeth Cymru chwyldroi'r ffordd y mae'n addysgu ei phobl ifanc,
gan greu'r dinasyddion a fydd yn arweinwyr y dyfodol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 25/02/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb
hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor y gwaith a wnaed gan Senedd
Ieuenctid Cymru ar sgiliau bywyd yn y cwricwlwm (gan gynnwys addysg
wleidyddol), cyflwyniad llawn y cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru sydd ar y
gweill, a chynnwys addysg wleidyddol yn rhan o Fagloriaeth Cymru, a chytunwyd i
gau'r ddeiseb a diolchodd i'r deisebydd am ei chysylltiad.
Gellir gweld manylion llawn
ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y
tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan
y Pwyllgor Deisebau ar 29/01/2019.
Etholaeth a Rhanbarth
y Cynulliad
·
Rhondda
·
Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/01/2019