P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru (Cyfraith Lucy)

P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru (Cyfraith Lucy)

Wedi'i gwblhau

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan C.A.R.I.A.D., ar ôl casglu 11,195 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol.

Mae gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan drydydd partïon am elw wedi'i enwi'n 'Gyfraith Lucy' ac fe'i cyhoeddwyd yn ddiweddar yn Lloegr. Mae cefnogaeth enfawr gan y cyhoedd, y cyfryngau ac ar draws y pleidiau i Gyfraith Lucy, ac rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno Cyfraith Lucy yng Nghymru fel mater o frys.

Mae tynnu cŵn bach oddi ar eu mamau i'w gwerthu yn aml yn creu cŵn sâl, trist, wedi'u trawmateiddio, sy'n camweithredu. Dylid gallu gweld cŵn bach gyda'u mam yn y lle y cawsant eu geni. Mae eu cludo i le gwahanol ar gyfer eu gwerthu yn niweidiol o ran eu lles. Nid yw rheoleiddio gwerthu cŵn bach yn fasnachol gan drydydd partïon yn effeithiol i atal niwed iddynt, ac felly mae gwaharddiad yn angenrheidiol er lles cŵn bach.

Caiff cŵn bridio a gedwir mewn ffermydd cŵn bach eu cuddio o olwg y cyhoedd ac yn aml maent yn dioddef trawma corfforol a seicolegol am flynyddoedd. Mae rheoleiddio gwerthu cŵn bach yn fasnachol gan drydydd partïon yn aneffeithiol o ran atal niwed i gŵn bridio ac mae gwaharddiad ar drydydd partïon ar werthu cŵn felly yn angenrheidiol er eu lles.
Byddai gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan drydydd partïon yn cael effaith gadarnhaol ar gŵn bridio, ac yn sicrhau eu bod yn weladwy, a byddai'n galluogi'r cyhoedd i weithredu ar gyngor arfer gorau i weld ci bach gyda'r fam ble y'i ganwyd.

Hefyd, ar hyn o bryd mae rhai pobl sy'n ffermio cŵn bach heb drwydded, a smyglwyr cŵn bach, yn defnyddio trydydd partïon trwyddedig i werthu eu cŵn bach, ac mae hyn yn ei gwneud yn bosibl iddynt weithredu heb gael eu dal, a heb i awdurdodau lleol fonitro iechyd a lles cŵn bridio a chŵn bach. Mae rheoleiddio gwerthu cŵn bach yn fasnachol gan drydydd parti yn aneffeithiol wrth atal ffermio cŵn bach yn anghyfreithlon a smyglwyr cŵn bach, ac felly mae angen gwaharddiad ar drydydd partion o ran gwerthu cŵn, i ddiogelu cŵn, cŵn bach a'r cyhoedd, yn ogystal ag i atal gweithgarwch troseddol.

​Nid oes dim manteision lles o werthu cŵn bach drwy werthwyr masnachol. Mae'r arfer hwn dim ond yn golygu bod cŵn bridio yn cael eu cadw o lygad y cyhoedd. Yn ogystal â phryderon am les anifeiliaid, mae gwerthiant gan drydydd partïon yn creu risgiau ychwanegol i iechyd a diogelwch y cyhoedd.

Mae gwerthiant cŵn bach yn uniongyrchol gan fridwyr neu ganolfannau achub cŵn adnabyddus yn amddiffyn pob parti, yn sgîl rhagor o dryloywder ac atebolrwydd. Gallai gwaharddiad ar fargeinio am gŵn bach er elw godi safonau iechyd a lles ar gyfer cŵn bridio a chŵn bach, yn ogystal â darparu diogelwch y mae mawr ei angen ar gyfer y cyhoedd.

Mae gweithredu Cyfraith Lucy yng Nghymru hefyd yn hanfodol i fynd i'r afael â'r difrod a wnaed i enw da Cymru, sy'n parhau i gael ei gydnabod fel canolbwynt o ran ffermio cŵn bach yn y Deyrnas Unedig.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a nododd fod Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 wedi'u pasio gan y Senedd ym mis Mawrth 2021. Felly llongyfarchodd y Pwyllgor yr ymgyrchwyr, a chytunodd i gau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/01/2019.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

·         Pen-y-bont ar Ogwr

·         Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/01/2019