Fframweithiau polisi cyffredin y DU - Y Bumed Senedd

Fframweithiau polisi cyffredin y DU - Y Bumed Senedd

Daeth y Pumed Senedd i ben ym mis Mai 2021.

Darganfod gwaith sy'n ymwneud â Fframweithiau Cyffredin yn y Chweched Senedd (2021-2026)

Y Senedd a fframweithiau cyffredin

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig adroddiad (PDF, 379KB) ynghylch fframweithiau cyffredin y DU mewn perthynas ag amaethyddiaeth a’r amgylchedd ym mis Gorffennaf 2018.

Cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol sesiynau craffu rheolaidd gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i graffu ar y broses o greu'r fframweithiau.

Ddydd Llun 14 Ionawr 2019, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth panel arbenigol ar ddatblygu fframweithiau polisi cyffredin y DU a deddfu ar gyfer Brexit. Yn dilyn hyn, cafwyd sesiwn dystiolaeth panel arbenigol arall ar 17 Mehefin 2019, yn canolbwyntio ar waith craffu ar fframweithiau polisi cyffredin y DU.

Ysgrifennodd (PDF, 395KB) y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit ar 7 Mai 2019 i ofyn am ragor o wybodaeth am safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phob un o’r meysydd a nodwyd yn asesiad dros dro [Saesneg yn unig] Llywodraeth y DU gan eu bod yn croestorri cymhwysedd datganoledig Cymru.

Mewn ymateb, cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru yn ei gyfarfod ar 20 Mai 2019, ac, yn dilyn hyn, anfonodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit lythyr (PDF, 257KB) at y Cadeirydd ar 24 Mai 2019.

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit ar 3 Mehefin 2019 pan atebodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit gwestiynau am fframweithiau polisi cyffredin y DU.

Ar 3 Gorffennaf 2019, gwnaeth Llywodraeth y DU ddatganiad ysgrifenedig ynghylch fframweithiau cyffredin a chysylltiadau rhynglywodraethol, gan ddatgan bod pedair dogfen yn cael eu cyhoeddi [Saesneg yn unig]:

  • adroddiad cynnydd ynghylch llunio’r fframweithiau cyffredin;
  • dogfen yn amlinellu’r camau allweddol er mwyn cyflwyno’r fframweithiau cyffredin;
  • fframwaith amlinellol ynghylch cynllunio sylweddau peryglus; a
  • set o egwyddorion drafft ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol.

Ar 3 Gorffennaf 2019, ysgrifennodd (PDF, 242KB) y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit at Gadeiryddion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig er mwyn tynnu eu sylw at y dogfennau hyn, ac i ddweud ei fod yn croesawu’r cynnydd a wnaed o ran fframweithiau cyffredin.

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan – papur trafod ym Awst 2019. Nod y papur oedd rhoi trosolwg o beth yw fframweithiau a beth y gallai fod angen i bwyllgorau’r Senedd ei ystyried o ran craffu.

Cynhaliodd y Pwyllgor grŵp trafod gydag academyddion ynghylch craffu ar fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan ar 14 Hydref 2019.

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar fframweithiau polisi cyffredin: craffu ar waith y Cynulliad, ar 9 Rhagfyr 2019. Roedd yr adroddiad yn cynnig dull ar gyfer gwaith y Senedd o graffu ar fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 23 Ionawr 2020.

Y cefndir

Yn dilyn penderfyniad y DU i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, roedd angen i Lywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig greu dulliau gweithredu cyffredin ledled y DU – neu 'fframweithiau' – yn y meysydd polisi sy'n cael eu llywodraethu gan gyfraith yr UE, ond sydd o fewn cymhwysedd y gweinyddiaethau neu'r deddfwrfeydd datganoledig.

Ar 16 Hydref 2017, cyhoeddodd Cydbwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) gyfathrebiad [Saesneg yn unig] (PDF, 71.8KB) a oedd yn nodi'r egwyddorion a fyddai’n llywodraethu'r fframweithiau.

Roedd y cyfathrebiad yn nodi y byddai fframweithiau cyffredin yn cael eu sefydlu lle roedd eu hangen er mwyn:

galluogi marchnad fewnol y DU i weithredu, ond gan gydnabod gwahaniaethau polisi;

  • sicrhau cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau rhyngwladol;
  • sicrhau y gall y DU drafod cytundebau masnach a chytundebau rhyngwladol newydd, ymrwymo iddynt a’u rhoi ar waith;
  • galluogi rheoli adnoddau cyffredin;
  • gweinyddu a darparu mynediad at gyfiawnder mewn achosion sydd ag elfen drawsffiniol; a
  • gwarchod diogelwch y DU.

Ar 9 Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y DU asesiad dros dro [Saesneg yn unig] (PDF, 197KB) o feysydd cyfraith yr UE a oedd yn croestorri â chymhwysedd datganoledig ym mhob un o'r gweinyddiaethau datganoledig. Roedd y dadansoddiad fframwaith yn ymdrin â 153 o feysydd polisi gwahanol, gan gynnwys polisi amgylcheddol ac amaethyddiaeth, ac roedd yn dod i'r casgliad bod:

  • 49 o feysydd lle nad oedd angen gweithredu pellach;
  • 82 o feysydd lle y gallai fod angen fframweithiau anneddfwriaethol; a
  • 24 o feysydd lle gallai trefniadau fframwaith cyffredin deddfwriaethol fod yn angenrheidiol.

Daeth y dadansoddiad hefyd i'r casgliad bod 12 maes polisi a oedd wedi’u cadw yn ôl ym marn Llywodraeth y DU ond yr oeddent yn destun ‘trafodaeth barhaus’ â’r llywodraethau datganoledig. Roedd y rhain yn cynnwys enwau bwyd gwarchodedig a chymorth gwladwriaethol.

Ar 4 Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddadansoddiad diwygiedig [Saesneg yn unig] (PDF, 342KB) o feysydd cyfraith yr UE sy'n croestorri â'r gweinyddiaethau datganoledig.

Math o fusnes: Fframwaith Cyffredin

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/01/2019

Dogfennau