NDM6918 Dadl Plaid Cymru - Brexit Heb Gytundeb
NDM6918 Dadl Plaid Cymru - Brexit Heb Gytundeb
NDM6918 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthod ymadawiad â'r Undeb
Ewropeaidd heb gytundeb o dan unrhyw amgylchiadau.
2. Yn galw ar y Prif Weinidog i ofyn bod cyd-bwyllgor
Gweinidogion y DU yn cael ei ailgynnull ar fyrder er mwyn ceisio cytundeb
ar ddiystyru gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod cytundeb ymadael drafft
Llywodraeth y DU yn negyddu canlyniad y refferendwm yn sylweddol, drwy gadw’r
DU yn yr undeb tollau am gyfnod amhenodol ac, i bob pwrpas, yn y
farchnad sengl, gan ein hamddifadu hefyd o unrhyw lais ffurfiol neu bleidlais
ym mhenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn cymeradwyo ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb
gytundeb ac o dan delerau Sefydliad Masnach y Byd, er mwyn bodloni dymuniadau
pobl y DU, a Chymru, a bleidleisiodd yn bendant i adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i
gofleidio adferiad sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu allan i'r Undeb
Ewropeaidd.
Draft
Agreement on the withdrawal of the United Kingdom of Great Britain and Northern
Ireland from the European Union and the European Atomic Energy Community (Saesneg
yn unig)
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol gyda
Llywodraeth y DU wrth iddi geisio rhoi canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y
Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd ar waith.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2021
Angen Penderfyniad: 16 Ion 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS