Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu

Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu

Inquiry5

Cynhaliodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu.

Cylch gorchwyl:

Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:

  • Effaith ehangu'r meini prawf cymhwystra am Fathodyn Glas yng Nghymru, ac a oes angen ehangu pellach ar y meini prawf;
  • Gweithredu ymarferol a chysondeb o ran cynllun y Bathodyn Glas ledled Cymru, gan gynnwys asesiadau, ffioedd a gorfodi; ac
  • Y gefnogaeth a'r wybodaeth sydd ar gael i bobl sy'n gwneud cais am fathodyn glas yng Nghymru.

 

Tystiolaeth
Cynhaliodd y Pwyllgor nifer o sesiynau tystiolaeth i lywio gwaith y Pwyllgor. Gellir gweld tabl ohonynt isod. Yn ogystal, ymgynghorodd y Pwyllgor ar y pwnc hwn.

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, agenda a chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1.  Miranda Evans, Rheolwr Polisi a Rhaglenni, Anabledd Cymru

 

21 Mawrth 2019

Trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

2.  Samuel Stone, Swyddog Materion Allanol, Cymdeithas Awtistiaeth Cymru

Huw Owen, Swyddog Polisi, Cymdeithas Alzheimer’s Cymru

Helen Powell, Cynghorydd Cymorth Arbenigol, Rhaglen Cyngor ar Fudd-daliadau, Cymorth Canser Macmillan Cymru

Martin Fidler Jones, Swyddog Polisi, Gofal Canser Tenovus

4 Ebrill 2019

Trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

3.  Valerie Billingham, Rheolwr Polisi ac Ymgyrchoedd, Age Cymru

Kate Young, Cyfarwyddwr, Fforwm Cymru Gyfan Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu

4 Ebrill 2019

Trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

4.  Andrew Meredith, Arweinydd Tîm Gwasnaethau i Gwsmeiriaid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Rhys J. Page, Uwch Reolwr Busnes, Cyngor Sir Caerfyrddin

4 Ebrill 2019

Trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

5. Llywodraeth Cymru

Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
 Simon Jones, Cyfarwyddwr, Isadeiledd Economaidd
Dewi Rowlands, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trafnidiaeth, Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau

 

1 Mai 2019

Trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

 

 

 Adroddiad

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru - Cymhwystra a Gweithredu (PDF, 893KB) ddydd Llun 8 Gorffennaf.

 

Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Mae trefniadau gwahanol ar draws y 22 o gynghorau yn golygu fod y cynllun yn cael ei weithredu’n anghyson ar draws Cymru. Dylai mynd i’r afael â hyn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, fel y gall pawb gael gwasanaeth o ansawdd, waeth ble maent yn byw. Rhaid i’r system fod yn addas i’r diben o ystyried ei phwysigrwydd i’n cymunedau.”

Gellir darllen Adroddiad Spark byrrach yma.

Cyhoeddodd y Llywodraeth ei hymateb (PDF, 238KB) ac ymateb ychwanegol (PDF, 118KB) ar 9 Hydref 2019.

Cynhaliwyd dadl ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 16 Hydref 2019.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/01/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau