Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well

Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well

Inquiry5

Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well.

Cylch gorchwyl

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd trafod:

·         y dadleuon o blaid ac yn erbyn datganoli budd-daliadau lles;

·         y gwersi  a ddysgwyd o ddatganoli rhai pwerau nawdd cymdeithasol i'r Alban;

·         opsiynau ar gyfer gwahanol fathau o ddatganoli (h.y. hyblygrwydd credyd cyffredinol, datganoli budd-daliadau penodol, y gallu i greu budd-daliadau newydd ac ati);

·         ystyriaethau ymarferol datganoli (e.e. y goblygiadau ariannol, integreiddio systemau datganoledig a systemau nad ydynt wedi’u datganoli, seilwaith cyflenwi ac ati); ac

·         yr egwyddorion a allai fod yn sail i ddarparu budd-daliadau yng Nghymru.

Casglu tystiolaeth

Cynhaliodd y Pwyllgor nifer o sesiynau tystiolaeth i lywio gwaith y Pwyllgor, a gellir eu gweld yn y tabl isod. Yn ogystal, ymgynghorodd y Pwyllgor ar y pwnc hwn. Mae ymatebion i’r ymgynghoriad wedi’u cyhoeddi.

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, agenda a chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1.Guto Ifan, Canolfan Llywodraethiant Cymru

Cian Sion, Canolfan Llywodraethiant Cymru

19 Mehefin 2019

Trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

2 Victoria Winckler, Sefydliad Bevan

19 Mehefin 2019

Trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

3 Gareth Morgan, Cynghorwyr Hawliau Lles Cymru
Susan Lloyd-Selby, Ymddiriedolaeth Trussell

27 Mehefin 2019

Trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

4 Matthew Kennedy, Sefydliad Tai Siartredig Cymru

Sam Lister, Sefydliad Tai Siartredig Cymru
Will Atkinson, Cartrefi Cymunedol Cymru

27 Mehefin 2019

Trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

5 Rachel Cable, Oxfam Cymru

Samia Mohamed

27 Mehefin 2019

Trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

6 Hannah Blythyn AC, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Jo-Anne Daniels, Llywodraeth Cymru

Linda Davis, Llywodraeth Cymru

3 Gorffennaf 2019

Trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Budd-daliadau yng Nghymru - opsiynau i'w cyflawni'n well (PDF, 1MB) ar 24 Hydref 2019.

Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor ar y pryd:

“Ar hyn o bryd nid yw'r system bresennol yn gweithio i lawer gormod o bobl. Rydym yn clywed dro ar ôl tro nad yw budd-daliadau'n ddigonol i dalu costau cartref sylfaenol a hanfodol, ac nid yw'r system yn trin pobl ag urddas, tegwch na thosturi. Mae cost ddynol y methiannau hyn yn annerbyniol, yn un o economïau cenedlaethol mwyaf y byd.”

Gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb (PDF, 240KB KB) i’r adroddiad ar 6 Rhagfyr 2019.

Yn sgil yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei hymateb (PDF, 523KB) i adroddiad y Pwyllgor.

Trafodwyd yr adroddiad ac ymatebion y llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Medi 2020.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/02/2019

Y Broses Ymgynghori

Cylch gorchwyl

Ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, y cylch gorchwyl yw ystyried

  • y dadleuon o blaid ac yn erbyn datganoli budd-daliadau lles;
  • y gwersi  a ddysgwyd o ddatganoli rhai pwerau nawdd cymdeithasol i'r Alban;
  • opsiynau ar gyfer gwahanol fathau o ddatganoli (h.y. hyblygrwydd credyd cyffredinol, datganoli budd-daliadau penodol, y gallu i greu budd-daliadau newydd ac ati);
  • ystyriaethau ymarferol datganoli (e.e. y goblygiadau ariannol, integreiddio systemau datganoledig a systemau nad ydynt wedi’u datganoli, seilwaith cyflenwi ac ati); ac
  • yr egwyddorion a allai fod yn sail i ddarparu budd-daliadau yng Nghymru.

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei waith o ystyried yr ymchwiliad.  Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod i lunio eich ymateb.

Dylai sylwadau gyrraedd erbyn 11 Ebrill 2019 fan bellaf.

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: SeneddCymunedau@cynulliad.cymru

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau

Ymgynghoriadau