P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol
P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon
gan Mayameen Meftahi, ar ôl casglu 227 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Mae'r syniad y
tu ôl i dai plant yn seiliedig ar yr arferion gorau a welir yn yr UDA a
Sgandinafia. Gan gydnabod bregusrwydd plant sy'n ddioddefwyr, a'r niwed y mae
cyfweliadau niferus yn ei achosi iddynt, mae tai plant yn ymateb sy'n ystyriol
o blant wrth ymdrin ag achosion lle y cam-driniwyd plentyn yn rhywiol.
Yn y DU, mae dau dŷ plant yn ninas Llundain, ond nid oes yr un yng
Nghymru.
Nid yw plant yn gwybod at bwy nac i ble y gallent droi, nid ydynt yn gwybod bod
cymorth ar gael, ond trwy gynnig Tai Plant ledled y DU, gallwn achub plant.
Parhau â llochesi i ddioddefwyr trais domestig, ond dylai fod Tai Plant ar
gyfer plant sy'n dioddef camdriniaeth rywiol.
Gwyddom y bydd llawer o blant sy'n cael eu cam-drin yn ceisio dianc rywbryd;
byddant am ddod yn rhydd o'u sefyllfa, ond nid oes ganddynt rywle i droi. Cânt
eu dychwelyd adref, yn ôl i afael y sawl sy'n eu cam-drin.
Gallai darparu tŷ diogel sy'n ystyriol o blant agor y ffordd at ddatgelu a
diogelu.
Yng Ngwlad yr Iâ, mae model 'Barnahús' ar waith er 1998, sef lle ar gyfer
cynnal cyfweliadau fforensig, gwneud datganiadau llys, cynnal archwiliadau
meddygol a chael mynediad at wasanaethau therapiwtig, i gyd o dan un to. Dylem
roi hyn ar gael, fel y gwnawn o ran llochesi i ddioddefwyr trais domestig. Ers
i Wlad yr Iâ sefydlu'r model Barnahús, mae nifer y plant sy'n gofyn am gymorth
ar ôl dioddef camdriniaeth rywiol wedi mwy na dyblu bob blwyddyn, mae nifer y
cyhuddiadau wedi treblu, ac mae nifer yr euogfarnau wedi dyblu. Mae hyn yn
ddigon o dystiolaeth i ddangos bod y tai hyn yn hanfodol.
Dylid darparu tai plant, ac ar ben hynny dylid dysgu i blant fod yr opsiynau
hyn ar gael.
Ymunwch â ni yn yr ymgyrch i fynd i'r afael â'r mater hwn, a phwyso ar i
Lywodraeth Cymru ddarparu Tŷ Diogel yng Nghymru - ni allwn ddisgwyl i
blant fynd i Lundain, hyd yn oed lle maent yn gwybod am fodolaeth tai o'r fath.
Gwybodaeth
ychwanegol
Mae ar ein plant angen rhywle iddynt fynd iddo,
mae angen iddynt fod yn ddiogel, ac mae angen iddynt allu cyrraedd y cymorth
cywir i achub y plant hyn rhag oes o ddioddef oherwydd Camdriniaeth Rywiol.
Llofnodwch y ddeiseb hon a gwneud i bethau
ddechrau symud!
Statws
Yn ei gyfarfod ar 03/07/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r
ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn
ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y
tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y
Pwyllgor Deisebau ar 15/01/2019.
Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd
·
Dwyrain Abertawe
·
Gorllewin De
Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/01/2019