P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai
P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai
P-05-854
Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan The Paul Ridd
Foundation, ar ôl casglu 5,654 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Paul Ridd oedd ein brawd. Roedd ganddo
anableddau dysgu difrifol a bu farw yn Ysbyty Treforys yn 2009. Dywedodd
adroddiad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus fod yr amgylchiadau'n arwain at
farwolaeth Paul, sef esgeulustod, diffyg hyfforddiant ac anwybodaeth yn
ffactorau cyfrannol a arweiniodd at farwolaeth Paul. Rhaid i'r Llywodraeth
sicrhau bod pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cael hyfforddiant
gorfodol i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd enfawr sy'n wynebu pobl
ag awtistiaeth ac anabledd dysgu.
Nid yw 1 o bob 4 gweithiwr gofal iechyd
proffesiynol erioed wedi cael hyfforddiant ar anabledd dysgu neu awtistiaeth.
Mae hyn yn annerbyniol. Hoffai dwy ran o dair gael mwy o hyfforddiant, ac mae 1
o bob 3 yn credu bod diffyg arweinyddiaeth y llywodraeth yn cyfrannu at
broblemau marwolaethau y gellir eu hosgoi (ystadegau o'r arolwg a gynhaliwyd
gan YouGov ar gyfer Mencap:
https://www.mencap.org.uk/press-release/concerns-over-lack-clinical-training-causing-avoidable-learning-disability-deaths).
Etholaeth a Rhanbarth
y Cynulliad
·
Aberafan
·
Gorllewin De Cymru
Statws
Yn ei gyfarfod ar 03/12/2019 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i’w chau
yng ngoleuni’r ymrwymiadau a wnaed gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Tachwedd, a
llongyfarchodd y deisebwyr am eu gwaith wrth geisio cyflawni’r ymrwymiad hwnnw.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 15/01/2019.
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/01/2019