Rhwystrau sy'n wynebu cwmnïau bach sy'n adeiladu cartefi

Rhwystrau sy'n wynebu cwmnïau bach sy'n adeiladu cartefi

Cytunodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i gynnal ymchwiliad byr i'r rhwystrau sy'n wynebu cwmnïau bach sy'n adeiladu cartefi.

Crynodeb

Mae nifer o adroddiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi tynnu sylw at y ffaith bod busnesau bach a chanolig wedi arfer adeiladu llawer mwy o dai newydd nag sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf.

Er mai mater i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yw cynllunio, ac mae mater i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yw tai, bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn edrych ar y rhwystrau sy'n cyfyngu ar y sector hwn o'r economi.

Cylch gorchwyl

Er mwyn gwneud hyn, bydd y Pwyllgor yn edrych ar y canlynol:

  • Asesu'r rhwystrau sy'n wynebu cwmnïau bach sy'n adeiladu tai, i gynnwys ystyried:
    • Argaeledd ac effeithiolrwydd cyllid a chymorth Llywodraeth Cymru (ac eraill) ar gyfer cwmnïau bach sy'n adeiladu cartefi.
    • Argaeledd gweithlu medrus yn y sector adeiladu
    • Mynediad at safleoedd datblygu addas
    • Y system gynllunio ac i ba raddau y mae'n mynd ati i hwyluso datblygiadau gan gwmnïau bach sy'n adeiladu cartefi
    • Sefyllfa drechol nifer fach o gwmnïau mawr
  • Deall cyfran y tai newydd yng Nghymru a ddarperir gan gwmnïau bach sy'n adeiladu tai ar hyn o bryd, gan gynnwys ystyried:
    • Effaith Cymorth i Brynu - Cymru
    • Yr effaith bosibl o gynyddu'r gyfran o dai newydd yng Nghymru a ddarperir gan gwmnïau bach sy'n adeiladu cartefi
    • Y graddau y mae cwmnïau bach sy'n adeiladu cartefi yn cael eu cynnwys wrth ddarparu tai fforddiadwy (gan gynnwys effaith rheolau caffael presennol)

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/12/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau