Hepatitis C

Hepatitis C

Inquiry5

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ymchwiliad i Hepatitis C i edrych ar y gwaith sy’n cael ei wneud i geisio ei ddileu yng Nghymru erbyn 2030.

Cyhoeddodd Pwyllgor y Pumed Senedd ei adroddiad ym mis Mehefin 2019. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ym mis Awst 2019.

Ysgrifennodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 8 Gorffennaf 2022 i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion Pwyllgor y Pumed Senedd. Ymatebodd y Gweinidog ar 30 Awst 2022. Ysgrifennodd Pwyllgor Chweched y Senedd eto ar 26 Medi 2022 i ofyn am ragor o wybodaeth. Ymatebodd y Gweinidog ar 21 Tachwedd 2022

Y cefndir

Mae hepatitis C yn feirws a gludir yn y gwaed sy'n achosi llid yr afu a gall arwain at niwed i'r afu yn y tymor hir.  Caiff y feirws ei ledaenu pan fydd gwaed rhywun heintiedig yn mynd i mewn i lif gwaed rhywun arall.

Y brif ffordd y caiff hepatitis C ei ledaenu yn y DU yw drwy rannu nodwyddau wrth gymryd cyffuriau. Gellir lledaenu'r feirws hefyd drwy ddefnyddio nodwyddau heb eu sterileiddio wrth dyllu'r corff neu gael tatŵ.  Anaml y caiff ei rannu drwy gyswllt rhywiol neu o'r fam i'r baban cyn neu yn ystod genedigaeth.  Mae pobl eraill sydd â mwy o risg o ddal hepatitis C yn cynnwys y rhai sy'n dod i gysylltiad â gwaed, megis gweithwyr gofal iechyd a swyddogion carchar a phobl a gafodd drallwysiad gwaed cyn 1991 yn y DU neu mewn gwledydd nad ydynt yn sgrinio gwaed ar gyfer y feirws.  Ers 1991, mae'r holl waed a roddir yn y DU yn cael ei sgrinio ar gyfer y feirws hepatitis C.

Bydd oddeutu un o bob pump o bobl heintiedig yn cael gwared ar y feirws o'u cyrff yn naturiol o fewn y chwe mis cyntaf ar ôl eu heintio. I'r gweddill, daw hepatitis C yn haint cronig.

I'r bobl hyn, mae'r canlyniad o gael eu heintio'n amrywiol iawn. Nid yw llawer o bobl byth yn datblygu arwyddion na symptomau o glefyd yr afu ac mae'n bosibl na fyddant hyd yn oed yn gwybod eu bod wedi'u heintio. Fodd bynnag, bydd tua 20 y cant yn datblygu sirosis (creithiau) yr afu o fewn 10-30 mlynedd, a all arwain at fethiant yr afu.  Mae hepatitis C cronig hefyd yn gysylltiedig â risg uwch o ganser yr afu.

Nid oes brechlyn ar gyfer hepatitis C. Ystyrir bod meddyginiaethau newydd wedi chwyldroi triniaeth hepatitis C fel y gall tua 9 o bob 10 o bobl, erbyn hyn, wella ohono os caiff ei drin yn gynnar. Mae'r triniaethau tabledi newydd yn fwy effeithiol ac yn cael llawer llai o sgil-effeithiau ac mae'r driniaeth yn cymryd 8 i 12 wythnos.  Hyd yn oed os na fydd y driniaeth yn cael gwared ar y feirws, gall arafu llid yr afu a niwed iddo.

Cylch gorchwyl

Y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor oedd:

  • Y camau sy'n cael eu cymryd i fodloni gofynion Cylchlythyr Iechyd Cymru (WHC/2017/048) a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017 a chyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd, wedi hynny, i ddileu hepatitis B a hepatitis C fel bygythiadau sylweddol i iechyd y cyhoedd erbyn 2030.
  • Sut y gellir cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol am y feirws hepatitis C.
  • Y cwmpas i gynyddu gweithgarwch cymunedol, e.e. rôl fferyllfeydd cymunedol.
  • Hyfywedd rhaglenni triniaeth yn y tymor hir.

 

Sesiynau tystiolaeth

 

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Hepatitis C Trust

Rachel Halford, Prif Weithredwr, Hepatitis C Trust

Stuart Smith, Cyfarwyddwr, Hepatitis C Trust

Aidan Rylatt, Cynghorwr Polisi a Seneddol, Hepatitis C Trust

17 Ionawr 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

2. Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Dr Mair Hopkin, Cyd-Gadeirydd, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Peter Saul, Cyd-Gadeirydd, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Delyth Tomkinson, Nyrs Glinigol Arbenigol Hepatoleg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Lisa Turnbull, Cynghorwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

17 Ionawr 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

3. Grŵp Gweithredu Clefyd yr Afu Llywodraeth Cymru

Dr Brendan Healy, Cadeirydd Blood Borne Viruses Network, Ymgynghorydd Microbioleg a Chlefydau Heintus,  Arweinydd Cenedlaethol ar Hepatitis

Dr Ruth Alcolado, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Gavin Hardcastle.Hepatitis, Nyrs Glinigol Arbenigol Hepatitis, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dr Chinlye Ch’ng, Gastroenterolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

17 Ionawr 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

4. Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Giri Shankar, Prif Ymgynghorydd ar gyfer Diogelwch Iechyd a Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Jane Salmon, Ymgynghorydd ar gyfer Diogelwch Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Stephanie Perrett, Nyrs Arweiniol ar gyfer Iechyd a Chyfiawnder, Rhaglenni Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

17 Ionawr 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/12/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau