P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad.

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Stuart Davies, wedi iddi gasglu 5,916 o lofnodion ar-lein a 429 ar bapur, sef cyfanswm o 6,345 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

Yr ydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith a sicrhau bod sganiau delweddu atseiniol magnetig amlbaramedrig (mpMRI) o ansawdd uchel cyn biopsi ar gael i bob dyn cymwys yng Nghymru lle mae amheuaeth bod arno ganser y prostad. 

​Pam mae angen y ddeiseb hon?
Gall fod yn anodd gwneud diagnosis ar gyfer canser y prostad. Ers blynyddoedd, mae biopsïau i ddynion wedi bod yn ymyrrol ac yn boenus. Weithiau gallant arwain at heintiau difrifol - ni ddylai dyn gael biopsi oni bai bod rhaid.
Mae cynnal biopsi cyn cynnal sgan mpMRI yn golygu defnyddio cyfres o nodwyddau i godi samplau o feinwe ar hap o'r prostad, i weld a oes celloedd canseraidd. Y broblem gyda'r technegau hyn yw bod bylchau rhwng y nodwyddau, sy'n golygu bod canserau sylweddol weithiau'n mynd heb eu canfod os nad oes sampl o'r rhan honno o feinwe. Gall biopsi arwain at ganlyniadau positif anghywir, sef diagnosis o ganser nad yw'n arwyddocaol yn glinigol, a gall hyn arwain at or-drin cleifion yn ddiangen.

Gellir defnyddio sganiau mpMRI ar y cyd â phrofion eraill i gynyddu nifer y canserau prostad ymosodol sy'n cael eu darganfod ynghynt. Profwyd bod cynnal sganiau mpMRI i safon ddigonol hefyd yn lleihau yn ddiogel nifer y dynion a allai gael biopsi yn ddiangen, a hynny drwy gadarnhau nad oes arnynt ganser y prostad yn gynharach yn y broses.

Beth yw mpMRI?
Ystyr mpMRI yw delweddu atseiniol magnetig amlbaramedrig. Mae'n cyfuno hyd at dri math gwahanol o sgan i greu delwedd gliriach o'r hyn sy'n digwydd yn y prostad. Hefyd, mae chwistrelliad lliw yn golygu y gellir gwella delweddau'r sganiau i allu gweld yn gliriach a oes canser yn bresennol ai peidio. Mae hyn yn wahanol i sgan MRI safonol, sy'n creu delwedd o organau mewnol. Yn aml iawn, nid yw delweddau MRI yn ddigon clir i wneud diagnosis o ganser cynnar y prostad gyda sicrwydd.

Beth sy'n digwydd yng Nghymru?
O'r saith Bwrdd Iechyd sydd yng Nghymru, tri sy'n darparu mpMRI cyn biopsi. Dim ond un bwrdd sy'n defnyddio mpMRI i safon ddigon uchel i allu cadarnhau yn ddiogel nad oes angen biopsi ar ddyn. Mae hyn yn golygu nad oes gan ddynion mewn pedwar Bwrdd Iechyd fynediad at mpMRI fel prawf diagnostig, oni bai eu bod yn talu dros £900 i'w gael yn y sector preifat.

Mae rhagor o wybodaeth am mpMRI a biopsïau yma: https://prostatecanceruk.org/prostate-information/prostate-tests/introduction-to-prostate-tests

 

A group of people standing on a sidewalk

Description automatically generated

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         De Clwyd

·         Gogledd Cymru

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/12/2018.

 

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2018