Yn ei adroddiad strategaeth ar gyfer 2016-21, mae'r Bwrdd Taliadau yn amlinellu ei ymrwymiad i gyhoeddi ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad flwyddyn cyn etholiad cyffredinol Cymru yn 2021.
Fel y gwyddoch, ategir gwaith y Bwrdd gan egwyddorion sy'n cynnwys y dylai'r cymorth ariannol a'r taliadau i Aelodau gefnogi diben strategol y Cynulliad; a bod yn rhaid i benderfyniadau fod yn briodol yng nghyd-destun enillion yng Nghymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru. Mae'r Bwrdd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod ei Benderfyniad yn adlewyrchu cymhlethdod a phwysigrwydd y swyddogaethau y mae Aelodau'n ymgymryd â hwy, ac nad yw'n rhwystro unigolion, am resymau ariannol, rhag ceisio cael eu hethol i'r Cynulliad. Gan hynny, mae'r Bwrdd wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr adolygiad:
Cytunodd y Bwrdd ar sut y bydd yn adolygu'r Penderfyniad yn ei gyfarfod ar 11 Hydref 2018. Caiff yr adolygiad ei rannu'n dair. Ar ôl ystyried pob rhan o'r gwaith, bydd y Bwrdd yn cyhoeddi ymgynghoriad i geisio barn am ei gynigion i ddiwygio unrhyw ddarpariaethau yn y rhan honno. Wedi i'r Bwrdd gwblhau ei adolygiad o'r tair rhan o'r adolygiad, caiff ymgynghoriad terfynol ei gyhoeddi i geisio barn am y Penderfyniad yn ei gyfanrwydd, a hynny i sicrhau bod y pecyn cymorth ariannol i'r Aelodau yn parhau i fod yn addas at y diben. Mae manylion y materion sydd ym mhob rhan o'r adolygiad a'r dyddiadau ymgynghori posibl wedi'u nodi isod:
|
Materion i'w hystyried |
Y dyddiadau ymgynghori posibl |
Rhan un |
- Gwariant ar lety preswyl (pennod 4) - Siwrneiau'r Aelodau (pennod 5) - Lwfans costau swyddfa (pennod 6) |
Gwanwyn 2019 |
Rhan dau |
- Cymorth ar gyfer Aelodau’r Cynulliad (pennod 7) - Cymorth ar gyfer y pleidiau gwleidyddol (pennod 8) |
Haf 2019 |
Rhan tri |
- Taliadau Aelodau (pennod 3) - Aelodau sy'n gadael y swydd (pennod 9) |
Dechrau'r hydref 2019 |
Ymgynghoriad llawn: |
Holl ddarpariaethau'r Penderfyniad |
Diwedd yr hydref 2019 |
Er gwybodaeth yn unig y mae'r dyddiadau ymgynghori a gallent newid. Caiff manylion llawn pob ymgynghoriad eu cyhoeddi ar wefan y Bwrdd.
Pe bai'r Comisiwn yn penderfynu cyflwyno deddfwriaeth fel rhan o'i Raglen Diwygio'r Cynulliad, mae'r Bwrdd yn ymwybodol y byddai gofyn iddo ystyried yr angen i gynnig unrhyw newidiadau pellach i'r Penderfyniad i adlewyrchu'r cynigion deddfwriaethol. Bydd y Bwrdd yn monitro'r rhaglen Diwygio'r Cynulliad wrth iddi ddatblygu, i sicrhau bod ei Benderfyniad yn ystyried newidiadau cyfansoddiadol a'i fod yn rhoi cyfle i'r Aelodau ymgymryd â'u rôl yn effeithiol ar ran pobl Cymru.
Ar 1 Ebrill lansiodd y Bwrdd ymgynghoriad cyhoeddus ar ei gynigion sy’n deillio o ran gyntaf ei Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Mae’r cynigion hyn yn ymwneud â phenodau y Penderfyniad ar Wariant ar Lety Preswyl, ar Gostau Swyddfa ac ar Siwrneiau Aelodau.
Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Gwener 7 Mehefin 2019.
Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i’w ymgynghoriad yn ei gyfarfod ar 4 Gorffennaf 2019. Ceir manylion llawn ynghylch penderfyniad y Bwrdd yma.
Ymgynghoriad ar rhan dau
Ar 11 Gorffennaf, lansiodd y Bwrdd ymgynghoriad cyhoeddus ar ei gynigion yn deillio o ran 2 o’i Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Mae’r cynigion hyn yn ymwneud â’r penodau yn y Penderfyniad ar y cymorth i Aelodau’r Cynulliad a Grwpiau Gwleidyddol.
Daw’r ymgynghoriad i ben ar ddydd Gwener 11 Hydref 2019.
Bydd y Bwrdd yn trafod yr ymatebion a geir mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Ymgynghoriad ar ran tri
Ar 30 Medi, lansiodd y Bwrdd ymgynghoriad cyhoeddus ar ei gynigion, sy’n deillio o ran tri o’i Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Mae’r cynigion hyn yn gysylltiedig â’r penodau yn y Penderfyniad sy’n ymwneud â thaliadau Aelodau, darpariaeth dirwyn i ben, a chymorth ychwanegol i Aelodau.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Llun 11 Tachwedd 2019.
Bydd y Bwrdd yn trafod yr ymatebion a geir mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/11/2018