P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus

P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus

Wedi'i gwblhau

P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Anthony Britner, ar ôl casglu 119 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer saethu adar hela er mwyn atal erlid adar ysglyfaethus a gysylltir yn aml â'r gweithgaredd hwn.

 

Mae adroddiadau trosedd adar yr RSPB yn dangos mai ciperiaid sy'n gyfrifol am nifer eithriadol o uchel o ddigwyddiadau erlid adar ysglyfaethus. Fodd bynnag, er gwaethaf y wybodaeth hon, anaml iawn y caiff trefnwr digwyddiadau erlid ei erlyn yn llwyddiannus oherwydd anawsterau wrth gael digon o dystiolaeth i gyhuddo unigolyn penodol. Hyd yn oed yn yr Alban, lle mae atebolrwydd dirprwyol, prin yw'r erlyniadau.

 

Oherwydd hyn, credwn mai'r cam gweithredu mwyaf priodol yw cyflwyno cynllun trwyddedu. Dylai'r drwydded hon fod yn drwydded i weithredu digwyddiad saethu adar hela

 

Dylai'r drwydded wneud y canlynol o leiaf:
1. Bod yn berthnasol i ardal ddaearyddol a ddiffinnir yn y cais am drwydded.
2. Bod yn ofynnol er mwyn i ystâd gynnal unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiedig â saethu adar hela, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig o reidrwydd i'r canlynol:
2.a. Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â magu adar hela.
2.b. Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â rheolaeth gyfreithiol o ysglyfaethwyr (rhaid i ystadau gael trwydded weithredu cyn y cânt wneud cais am drwyddedau cyffredinol neu benodol sy'n gysylltiedig â gweithgareddau rheoli plâu).
2.c. Caniatáu i aelodau'r digwyddiad saethu gymryd rhan wrth saethu adar hela y tu allan i'r cyfnod gwaharddedig.
2.d. Caniatáu i drefnwr y digwyddiad saethu werthu diwrnodau saethu i'r cyhoedd.

 

Os cynhelir digwyddiad erlid ar dir ystâd neu'n agos ato, bydd modd i'r awdurdod priodol atal gallu'r ystâd i gynnal yr holl weithgareddau neu unrhyw un ohonynt a restrir o dan bwynt 2 am gyfnod.

 

Dylai digwyddiadau erlid difrifol neu fynych arwain at ddiddymu trwydded weithredu'r ystâd.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Wrecsam

·         Gogledd Cymru

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 11/06/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Yng ngoleuni'r wybodaeth a gafwyd gan y Pwyllgor, gan gynnwys yr adolygiad diweddar ynghylch atal ac ymchwilio i droseddau bywyd gwyllt, a’r ffaith bod y Gweinidog wedi gwrthod y cynnig a wnaed yn y ddeiseb, daeth y Pwyllgor i'r casgliad ei bod yn ymddangos nad oes fawr o ddim y gellid ei gyflawni ar yr adeg yma. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/12/2018.

 

 

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2018