P-05-851 Dileu’r cyfyngiadau amser ar y gilfan i’r dwyrain o Grucywel

P-05-851 Dileu’r cyfyngiadau amser ar y gilfan i’r dwyrain o Grucywel

Wedi'i gwblhau

P-05-851 Dileu’r cyfyngiadau amser ar y gilfan i’r dwyrain o Grucywel

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Crickhowell Town Council, ar ôl casglu 209 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

​​​ Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu'r cyfyngiad amser ar y gilfan i'r dwyrain o Grucywel.  Ar hyn o bryd, mae terfyn amser o awr. Dyma'r unig gilfan â'r math hwn o gyfyngiad ar yr A40 yng Nghymru.


Prin y gwelir cerbyd yno gan y byddai mynd i'r dref am gwpanaid o de yn mynd heibio'r terfyn amser.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Brycheiniog a Sir Faesyfed

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/10/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i gau’r ddeiseb o ystyried y wybodaeth a oedd wedi dod i law a phryderon am ddiogelwch yn ymwneud â defnyddio’r gilfan i barcio ynddi.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/12/2018.

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2018