Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol
Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol
Mae Pwyllgor
yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr
ynghylch datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol.
Sefydlwyd
Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel is-gwmni dan berchnogaeth lawn Llywodraeth Cymru
sy’n gyfyngedig drwy warant. Ei bwrpas cychwynnol oedd caffael a
datblygu/gweithredu'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd yng Nghymru a’r
gwasanaethau Metro a chledrau’r Cymoedd – contract a ddyfarnwyd i KeolisAmey ym
mis Mehefin 2018. Dechreuodd
gwasanaethau “TrC Trenau” ar 14 Hydref 2018.
Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer
Trafnidiaeth Cymru; ar hyn o bryd mae’n ystyried swyddogaethau ychwanegol y
gallai’r sefydliad eu hysgwyddo ac yn datblygu achos busnes.
Cylch gorchwyl
Hoffai'r Pwyllgor
glywed eich barn ar drefniadau llywodraethu a datblygiad Trafnidiaeth Cymru yn
y dyfodol, gan gynnwys:
- A yw trefniadau llywodraethu,
strwythur a chyllid Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn effeithiol ac yn
dryloyw.
- Pa gamau y dylid eu cymryd i
ddatblygu'r agweddau hyn ar y sefydliad? A pha fodelau llywodraethu eraill
ac arferion da sydd ar gael?
- Rôl Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol
wrth weithredu polisi trafnidiaeth. Pa gyfrifoldebau ychwanegol y dylai'r
corff eu hysgwyddo a sut ddylai'r rhain integreiddio gyda rôl Llywodraeth
Cymru, llywodraeth leol ac awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol newydd?
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/11/2018
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor: Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol - Mai 2019 PDF 960 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru PDF 219 KB
Ymgynghoriadau
- Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol (Wedi ei gyflawni)