NDM6862 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cyllido Addysg Bellach
NDM6862 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cyllido Addysg Bellach
NDM6862
Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru)
Mohammad
Asghar (Dwyrain De Cymru)
Helen
Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Sian
Gwenllian (Arfon)
Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod cyllid ar gyfer addysg bellach wedi bod
o dan bwysau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i doriadau
cyllidebol.
2. Yn nodi bod y sector addysg bellach wedi'i osod o dan
bwysau ychwanegol, yn rhannol oherwydd polisïau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud
â dysgu gydol oes, sgiliau a chyflogadwyedd, a gafodd eu hegluro yn y cynllun
cyflogadwyedd diweddar a ddiweddarwyd gan ddatganiad ysgrifenedig ym mis Medi
2018.
3. Yn mynegi pryder bod staff mewn sefydliadau addysg bellach
yn ystyried mynd ar streic dros gyflogau annigonol a phryderon ynghylch llwythi
gwaith trwm.
4. Yn cynnig na ddylai fod unrhyw ostyngiad pellach o ran
faint o arian a dderbynnir gan y sector addysg bellach ac y dylid cydnabod ei
safle fel allwedd i gynhyrchiant, sgiliau, hyfforddiant a chyflogadwyedd yn
economi Cymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2021
Angen Penderfyniad: 21 Tach 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Bethan Sayed AS