Rheoli Apwyntiadau Dilynol Cleifion Allanol ar Draws Cymru
Rheoli Apwyntiadau Dilynol Cleifion Allanol ar Draws Cymru
Cyhoeddodd
Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad, sef Rheoli
apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru, ar 31 Hydref 2018.
Mae apwyntiad
dilynol yn un sy'n dilyn apwyntiad cychwynnol fel claf allanol. Mae'r rhesymau
dros apwyntiad dilynol yn cynnwys y rhai a ganlyn, ond heb fod yn gyfyngedig
iddynt, adolygiad ar ôl llawdriniaeth, rheoli cyflyrau cronig neu gadw llygad
arnynt, neu fonitro ar gyfer arwyddion o ddirywio, cyn ymyrryd.
O ganlyniad i
bryderon cenedlaethol cynyddol mewn perthynas â rheoli apwyntiadau dilynol
cleifion allanol, mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal adolygiadau cychwynnol
a dilynol ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf i helpu
i ganfod maint yr heriau a wynebir a'r cynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â
hwy.
Mae'r adroddiad hwn
yn crynhoi'r cynnydd a wnaed gan fyrddau iechyd ers adolygiad cychwynnol yr
Archwilydd Cyffredinol yn 2015-16; trefniadau cenedlaethol i wella rheolaeth a
pherfformiad apwyntiadau dilynol cleifion allanol a newidiadau yn y rhestr
aros, gan gynnwys nifer y cleifion sydd ar y rhestr aros apwyntiadau dilynol
cleifion allanol a'r rhai sy'n cael eu gohirio.
Canfu'r Adroddiad
fod byrddau iechyd wedi gwneud rhywfaint o gynnydd o ran ymateb i'r
argymhellion a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol yn 2015-16, ond mae'r
cyflymder a'r effaith ar leihau'r ôl-groniad o apwyntiadau dilynol wedi'u
gohirio yn gyfyngedig, gydag amrywiadau sylweddol rhwng arbenigeddau a byrddau
iechyd ar draws Cymru. Mae nifer gyfartalog y cleifion ar y rhestr aros
apwyntiadau dilynol wedi cynyddu 12 y cant dros y 3 blynedd diwethaf, gyda
nifer y cleifion sy'n aros ddwywaith cymaint ag y dylent fod.
Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr
Adroddiad a chynhaliodd ymchwiliad
yn ystod tymor y gwanwyn a haf 2019, gan gyhoeddi ei ganfyddiadau ym mis
Gorffennaf 2019.
Mae’r Pwyllgor wedi
monitro gweithrediad yr argymhellion yn ei adroddiad yn rheolaidd ac wedi
derbyn diweddariadau rheolaidd gan Lywodraeth Cymru ac roedd yr un terfynol ym
mis Medi 2020.
Sesiwn
Dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda
a Chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Len Richards Steve Curry Caroline Bird |
|||
2. Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Judith Paget Dr Paul Buss Claire Birchall |
|||
3. RNIB Cymru Ansley Workman Elin Haf
Edwards Gareth Davies |
|||
4. Llywodraeth Cymru Dr Andrew
Goodall Simon Dean Dr Chris Jones |
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/11/2018
Dogfennau
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru - 28 Awst 2020 PDF 974 KB
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru - 23 Hydref 2019 PDF 348 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru - 4 Hydref 2019 PDF 139 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru I adroddiad y Pwyllgor (PDF571KB) - 11 Medi 2019 PDF 571 KB
- Adroddiad y Pwyllgor- Gorffennaf 2019 (PDF 1MB) PDF 1 MB
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru - 26 Mehefin 2019 PDF 393 KB
- Ymateb gan y Gymdeithas Feddygol Brydeining i lythyr y Cadeirydd - 10 Mai 2019 (Saesneg yn unig) PDF 580 KB Gweld fel HTML (7) 34 KB
- Ymateb gan Goleg Brenhinol y Meddygon i lythyr y Cadeirydd - 4 Mai 2019 (Saesneg yn unig) PDF 751 KB
- Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor at Randdeiliaid - 9 Ebrill 2019 PDF 146 KB
- Ymateb gan Lywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - Tachwedd 2018 (Saesneg yn unig) PDF 303 KB
- Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - Rheoli Apwyntiadau Cleifion Allanol ar draws Cymru - Hydref 2018 PDF 1 MB