Addysgu Hanes Cymru

Addysgu Hanes Cymru

Inquiry5

 

Cefndir

 

Cynhaliodd y Pwyllgor arolwg cyhoeddus yn ystod haf 2018, gan wahodd aelodau o'r cyhoedd i ddewis o restr o bynciau posibl ar gyfer ymchwiliad. Cymerodd bron 2,500 o bobl ran yn yr arolwg, a phleidleisiodd 44 y cant ohonynt dros 'Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn ysgolion'.

 

Yn dilyn canlyniadau'r bleidlais, cytunodd y Pwyllgor Diwylliant, Cymraeg a Chyfathrebu i gynnal ymchwiliad i edrych ar sut mae hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru yn cael eu haddysgu mewn ysgolion.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad i randdeiliaid yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, ar 21 Chwefror 2019.

 

Adroddiad  

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: “Addysgu hanes Cymru” (PDF, 1.3MB) ar 14 Tachwedd 2019. Edrychodd yr adroddiad ar sut mae hanes Cymru yn cael ei addysgu mewn ysgolion yng Nghymru a gwnaeth argymhellion ar gyfer newid.

 

Cafodd yr adroddiad ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Ionawr 2020.

   

 

Ymateb i'r adroddiad

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i'r adroddiad.

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/10/2018

Dogfennau

Papurau cefndir

Ymgynghoriadau