Cyllid Ysgolion
Cyllid Ysgolion
Inquiry5
Cynhaliodd y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i ddigonolrwydd cyllid ysgolion yng
Nghymru a'r ffordd y mae cyllidebau ysgolion yn cael eu pennu a'u dyrannu.
Canolbwyntiodd yr ymchwiliad ar:
·
digonolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer cyllidebau ysgolion
yng nghyd-destun cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus eraill a'r adnoddau sydd ar
gael;
·
i ba raddau y mae lefel y ddarpariaeth ar gyfer
cyllidebau ysgolion yn ategu neu’n rhwystro’r gwaith o gyflawni amcanion polisi
Llywodraeth Cymru;
·
y berthynas, cydbwysedd a thryloywder rhwng ffynonellau
cyllid amrywiol ysgolion, gan gynnwys cyllidebau craidd a chyllid neilltuedig;
·
y fformiwla ariannu llywodraeth leol a’r pwysoliad a
roddir i gyllidebau addysg a chyllidebau ysgolion yn benodol yn y Setliad
Llywodraeth Leol;
·
Goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru ynghylch sut y mae
awdurdodau lleol yn pennu cyllidebau ysgolion unigol, gan gynnwys, er
enghraifft, y pwysoliad a roddir i ffactorau megis proffil oedran y disgyblion,
amddifadedd, iaith y ddarpariaeth, nifer y disgyblion ag Anghenion Dysgu
Ychwanegol a darpariaeth cyn oedran gorfodol;
·
y cynnydd a'r datblygiadau ers adolygiadau blaenorol
pwyllgorau'r Cynulliad (er enghraifft, rhai'r Pwyllgor
Menter a Dysgu yn y Trydydd Cynulliad); ac
·
argaeledd cymariaethau rhwng cyllid addysg a chyllidebau
ysgolion yng Nghymru a gwledydd eraill y DU a'r defnydd ohonynt.
Roedd Blog
Ymchwil yn rhoi rhagor o fanylion am Gyllido Ysgolion yng Nghymru.
Casglu tystiolaeth
Ar 16 Ionawr 2019, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad bord
gron i lywio ei ymchwiliad i gyllido ysgolion. Diben y drafodaeth ford gron
oedd galluogi’r Aelodau i gasglu barn a phrofiadau ynghylch digonolrwydd cyllid
ysgolion yng Nghymru a’r ffordd y caiff cyllidebau ysgolion eu pennu a’u
dyrannu. Mae nodyn
cryno o'r digwyddiad bord gron wedi’i lywio.
Adroddiad
Adroddiad
ar Gyllido Ysgolion yng Nghymru (PDF 2.16MB) – 10 Gorffennaf 2019
Ymateb
Llywodraeth Cymru (PDF 415KB) - 9 Medi 2019
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cynhaliwyd y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor yn y Cyfarfod
Llawn ddydd Mercher 23 Hydref 2019.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/10/2018
Dogfennau
- Llythyr at y Cadeirydd gan y Gweinidog Addysg ynghylch yr adolygiad o gyllido ysgolion – 20 Mawrth 2020 PDF 430 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Addysg ynghylch yr adolygiad o gyllido ysgolion - 5 Mawrth 2020 PDF 390 KB
- Llythyr gan Undebau Llafur ynghylch adolygiad Llywodraeth Cymru o ariannu ysgolion - 21 Ionawr 2020 PDF 283 KB Gweld fel HTML (3) 31 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Addysg ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar gyllido ysgolion yng Nghymru ac ymateb Llywodraeth Cymru - 16 Rhagfyr 2019 PDF 759 KB
- Llythyr at y Gweinidog Addysg ynghylch y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Gyllido Ysgolion - 15 Tachwedd 2019 PDF 153 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru - 9 Medi 2019 PDF 677 KB
- Nodyn o'r digwyddiad rhanddeiliaid PDF 167 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- Llythyr gan y Gweinidog Addysg - 18 Rhagfyr 2018 PDF 370 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Ymchwiliad i Gyllid Ysgolion - 23 Hydref 2018 PDF 117 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - 23 Hydref 2018 (Saesneg yn unig) PDF 83 KB
Ymgynghoriadau
- Cyllido Ysgolion yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)