P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Wedi'i gwblhau

P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Emma Eynon, ar ôl casglu 59 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

​​​​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n rhoi mwy o hawliau i drydydd partïon apelio penderfyniadau cynllunio. Ar hyn o bryd, ystyrir bod hyd yn oed y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol yn drydydd partïon i geisiadau cynllunio a gymeradwyir ac nad oes ganddynt fawr o hawl, os o gwbl, i apelio na hyd yn oed cynnig mewnbwn i amodau cynllunio. Mae’r broses adolygu barnwrol wedi’i hanelu at ddatblygwyr ac nid yw’r terfyn amser o chwe wythnos ar gyfer cyflwyno cais o’r fath yn addas ar gyfer grwpiau gweithredu cymunedol. Dylai fod gan drydydd partïon yr un hawliau â datblygwr i apelio penderfyniadau cynllunio ac ni ddylai fod rhaid iddynt anfon pob cyfathrebiad drwy law’r aelod ward etholedig.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 03/12/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

O ystyried bod y cynnig o ran hawliau apelio trydydd parti wedi’i wrthod gan Lywodraeth Cymru - fel yr oedd yn ystod ystyriaeth flaenorol a roddwyd i’r mater hwn wrth graffu ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 - mae’n anodd gweld sut y gall y Pwyllgor weithredu ymhellach ar y ddeiseb. Felly cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd am ei chyfraniadau i’r broses.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/10/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Castell-nedd

·         Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2018