P-05-841 Cynnwys cynnig amgen ‘Pont Benidgeidfran’ ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn y broses asesu ffurfiol
P-05-841 Cynnwys cynnig amgen ‘Pont Benidgeidfran’ ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn y broses asesu ffurfiol
P-05-841 Cynnwys cynnig amgen ‘Pont Benidgeidfran’ ar gyfer trydedd bont
dros y Fenai yn y broses asesu ffurfiol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Benji Poulton, ar
ôl casglu 278 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried yn
ffurfiol y cynnig amgen ar gyfer trydedd bont dros y Fenai, a gaiff ei hadnabod
fel 'Pont Bendigeidfran' (fel y'i disgrifir yn y fideo hwn
https://www.youtube.com/watch?v=Ty2q-ctJZKM).
Mae'r cynnig hwn
yn cynnig buddion cynyddol o ran cost oes gyfan, ei allu i wella'r tirlun
arbennig, buddion o ran traffig (o ran llif traffig a chadernid y rhwydwaith),
lleddfu amgylcheddol, hybu twristiaeth, a hyrwyddo diwylliant Cymru. Mae hefyd
yn cyd-fynd yn well â'r ddeddfwriaeth gyfredol, er enghraifft Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol. Ymddengys bod modd cyflawni'r cynnig hwn o safbwynt
peirianyddol, a bydd yn ychwanegiad mwy priodol i'r ddwy bont fyd enwog y ceir
eioes yn y lleoliad hwn.
Rydym felly'n
galw am asesu'r cynnig amgen hwn yn llawn ochr yn ochr â'r opsiynau gwreiddiol
a gyflwynwyd yn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch
trydedd bont dros y Fenai.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 11/12/2018 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau
pellach gan y deisebydd a chytunodd i ddarparu manylion cyswllt y deisebydd i'r
tîm sy'n ystyried dyluniadau posibl ar gyfer y bont newydd. Yn sgil yr
ymrwymiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y
bydd cynnig Pont Bendigeidfran yn cael ei asesu fel rhan o'r gwaith dylunio ar
gyfer y bont, cytunodd y Pwyllgor hefyd i gau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor
Deisebau ar 23/10/2018.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
·
Arfon
·
Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2018