P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru

P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Welsh Anti Nuclear Alliance, ar ôl casglu 1,028 o lofnodion ar-lein a 288 o lofnodion ar bapur, cyfanswm o 1,316 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

​​​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy gwyrdd, i leihau'r angen am danwydd ffosil ac ynni niwclear yng Nghymru. Yn fwy penodol: 

 

  • I gefnogi technolegau carbon isel sy'n dod i'r amlwg a allai roi Cymru ar flaen y gad o ran ynni adnewyddadwy, a helpu i arafu newid yn yr hinsawdd; a
  • Buddsoddi mewn ffynonellau ynni nad ydynt yn gadael gwaddol o wastraff ymbelydrol, tyllau sbwriel a niwed i iechyd a'r amgylchedd.


Rydym yn cymeradwyo sefydlu "Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015", gan ei bod yn rhoi cyfle enfawr i wneud newidiadau cadarnhaol a pharhaol ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, yn enwedig o ran ynni glân.

Cytunwn â'r Datganiad Ynni gan Lesley Griffiths ar 6/12/2016 pan ddywedodd fod gan y Cynulliad dair blaenoriaeth. Yn gyntaf, byddwn yn lleihau faint o ynni a ddefnyddiwn yng Nghymru. Yn ail, byddwn yn lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwydd ffosil. Yn drydydd, byddwn yn mynd ati’n rhagweithiol i reoli’r broses o newid i economi carbon isel. Dylid cynnwys gostyngiad o ran niwclear hefyd, fodd bynnag, gan nad yw'n ddewis adnewyddadwy na charbon isel.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gorsafoedd ynni niwclear yn dibynnu ar wraniwm i weithredu, ac mae cryn dipyn o garbon yn cael ei ryddhau wrth gloddio, malu a gwahanu'r wraniwm o'r mwyn, ac yna mae'n rhaid ei gludo. Mae’r amcangyfrifon cyfredol ar gyfer wraniwm yn nodi y bydd y cronfeydd wrth gefn yn para am 50 - 70 mlynedd a pho uchaf y bo’r galw, po fwyaf o fwynau y bydd yn rhaid eu prosesu. Bydd hyn yn arwain at gydbwysedd CO2 ar gyfer ynni atomig sy'n gwaethygu fwyfwy dros amser (JW Storm van Leeuwen a P. Smith, 'Nuclear Power: The Energy Balance', www.stormsmith.nl.)

"Ni ellir adnewyddu ynni niwclear a byddai wraniwm y Ddaear yn diflannu yn y pen draw, sy’n golygu ein bod, yn wir, yn amddifadu cenedlaethau’r dyfodol rhag ei ddefnyddio mewn ffyrdd newydd a llai niweidiol yn y dyfodol." (Sophie Howe - Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2018 wrth gefnogi Morlyn Llanw Abertawe)

"Mae honiadau bod ynni niwclear yn ffynhonnell ynni 'carbon isel' yn cael eu chwalu pan greffir ar y ffeithiau. Ymhell o’r canlyniad o chwe gram o CO2 fesul uned drydan ar gyfer Hinkley C, fel y cred Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd y DU, mae'n debyg bod y gwir ffigur yn fwy na 50 gram – sy’n torri'r terfyn a argymhellir gan y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd o ran ffynonellau newydd ar gyfer cynhyrchu ynni y tu hwnt i 2030." (Yr Athro Keith Barnham https://theecologist.org/2015/feb/05/false-solution-nuclear-power-not-low-carbon).

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 19/11/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebwyr a nododd yr Aelodau eu siom na chafwyd ymateb i ohebiaeth flaenorol gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd.

 

Fodd bynnag, yn sgil y ffaith bod penderfyniadau ynghylch datblygu Wylfa Newydd yn destun ymchwiliad cynllunio ac y byddant yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn y pen draw, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail nad oes llawer o graffu pellach a allai gyfrannu’n ddefnyddiol at y broses hon.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/10/18

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Brycheiniog a Sir Faesyfed

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/09/2018