P-05-834 Dylai Pob Ysgol Fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac Addysgu Hanes Cymru
P-05-834 Dylai Pob Ysgol Fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac Addysgu Hanes Cymru
P-05-834
Dylai Pob Ysgol Fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac Addysgu Hanes Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ashley
Davies, ar ôl casglu 75 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym ni sydd wedi
llofnodi isod yn deisebu'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Gweinidog Addysg i bob
ysgol yng Nghymru fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg er mwyn gwarchod iaith ein
cyndadau. Gofynnwn hefyd i bob ysgol yng Nghymru addysgu hanes Cymru a hanes y
bobl a gynorthwyodd i lunio'r wlad hon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'n warth nad yw'r rhan
fwyaf o bobl yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg. Yn waeth fyth, mae ein hanes
yn cael ei golli. Dim ond mewn ysgolion yn y Gogledd a'r Gorllewin, lle mae'r
mwyafrif yn siarad Cymraeg, y caiff ein hanes ei warchod, hanes sydd wedi'i
ysgrifennu yn yr iaith. Er mwyn diogelu'r rhain, rhaid inni wneud yn siŵr
bod ein plant yn eu dysgu a bod yr iaith yn cael ei defnyddio bob dydd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 11/06/2019
penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth
bellach gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni ymchwiliad y
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i Addysgu Hanes a Diwylliant
Cymru, ac i roi rhagor o wybodaeth i'r deisebydd o ran sut y gall gyfrannu at
hyn.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y
Pwyllgor Deisebau ar 09/10/2018.
Etholaeth a Rhanbarth
y Cynulliad
·
Mynwy
·
Dwyrain De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/09/2018