Gwefru cerbydau trydan yng Nghymru

Gwefru cerbydau trydan yng Nghymru

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i gwefru cerbydau trydan yng Nghymru.

Crynodeb

Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y ffaith bod mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn newid i gerbydau trydan a hybrid.

Cylch gorchwyl

  • Deall y seilwaith gwefru presennol yng Nghymru, ac i ba raddau y mae'n addas at y diben;
  • Sut y mae angen datblygu'r seilwaith i gefnogi cynnydd mewn cerbydau trydan ar ein ffyrdd. Sut y gall Llywodraeth Cymru, y sector preifat a'r trydydd sector gydweithio i ddatblygu’r seilwaith gwefru cerbydau trydan;
  • A yw'r grid trydan yng Nghymru yn gallu ymdopi â chynnydd sylweddol yn y seilwaith cerbydau trydan, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig;
  • Archwilio’r posibilrwydd i gerbydau trydan hyrwyddo newid ymddygiad, er enghraifft, o ran perchnogaeth cerbydau a mentrau rhannu ceir;
  • I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar yr argymhellion yn yr adroddiad cerbydau carbon isel; ac
  • Enghreifftiau o arfer da o Gymru a thu hwnt.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/09/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau