Offerynnau Statudol sydd angen Cydsyniad: Ymadael â'r UE

Offerynnau Statudol sydd angen Cydsyniad: Ymadael â'r UE

O dan rai amgylchiadau, bydd angen cydsyniad y Senedd ar rai offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion y DU. Er enghraifft, rhai offerynnau statudol a wnaed o dan Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 a Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011.

 

O dan Reol Sefydlog 30A, mae’n rhaid i aelod o’r llywodraeth osod memorandwm (Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol) mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol o’r fath y bydd Gweinidogion y DU yn ei osod gerbron Senedd y DU, a hynny dim mwy na thri diwrnod fel rheol ar ôl iddo gael ei osod gerbron Senedd y DU. Ar ôl i femorandwm cydsyniad offeryn statudol gael ei osod, caiff unrhyw aelod gyflwyno cynnig sy’n gofyn i’r Senedd gytuno i’r darpariaethau a amlygir ganddo.

 

Lle mae memorandwm cydsyniad offeryn statudol yn ymwneud â chynigion i newid y gyfraith yn sgil ymadawiad y DU â’r UE, bydd yr offeryn statudol sy’n destun memorandwm cydsyniad offeryn statudol gynnwys y term “(Ymadael â’r UE)” yn y teitl.

 

Rhaid i aelod o Lywodraeth Cymru osod datganiad ysgrifenedig i roi hysbysiad o offeryn statudol perthnasol a wnaed, neu sydd i’w wneud, gan Weinidog y DU sy’n gweithredu ar ei ben ei hun o dan adrannau 8, 9 neu 23 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, neu Atodlen 4 i’r Ddeddf honno, sy’n cynnwys darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.

 

Math o fusnes:

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/07/2022