Rheoli effaith Brexit ar Gronfeydd Strwythurol yr UE
Rheoli effaith Brexit ar Gronfeydd Strwythurol yr UE
Cyhoeddodd
Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar reoli effaith ymadael â’r Undeb
Ewropeaidd ar gronfeydd strwythurol yr UE ym mis Awst 2018.
Roedd Swyddfa
Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yn wynebu her sylweddol i ymrwymo holl gronfeydd
strwythurol yr Undeb Ewropeaidd cyn i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r UE. Fodd
bynnag, yn fuan cyn cyhoeddi adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, ymestynnodd
Llywodraeth y DU ei gwarant i barhau i ddarparu cyfran Cymru (a’r DU) o’r
cronfeydd strwythurol yng nghyfnod cyllideb yr UE hyd nes 2020.
Gadawodd y DU a’r
UE ar 31 Ionawr 2020.
Yng ngoleuni Brexit
a thelerau gwarant Llywodraeth y DU yn y gorffennol, roedd WEFO yn bwriadu
ymrwymo’r £2.1 biliwn o gronfeydd strwythurol yr UE yn ei gyfanrwydd erbyn mis
Mawrth 2019. Fodd bynnag, roedd WEFO’n cydnabod y byddai gwneud hynny yn
heriol. Ceir risg sylweddol na fydd rhai prosiectau sydd yn yr arfaeth yn
llwyddo yn y broses gymeradwyo. Mae ffactorau eraill sy’n effeithio ar allu
WEFO i ymrwymo cyllid yn cynnwys diffyg sicrwydd ynghylch Brexit, natur anwadal
cyfraddau cyfnewid a newidiadau yn yr amgylchedd economaidd. O dan delerau’r
warant yn y gorffennol, byddai Cymru’n colli tua £21 miliwn am bob 1 y cant o
gronfeydd strwythurol yr UE nas ymrwymwyd cyn Brexit.
Mae penderfyniad
Llywodraeth y DU i ymestyn y warant i dalu cyfran Cymru o’r cronfeydd
strwythurol yn ystod y cyfnod cyllidebol hyd nes 2020 yn golygu ei bod hi
bellach yn llai pwysig fod WEFO’n ymrwymo holl gyllid Cymru erbyn mis Mawrth
2019. Mae union effaith y warant estynedig yn cael ei thrafod ar hyn o bryd ac
mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyhoeddi canllawiau newydd maes o law.
Daeth yr adroddiad
i’r casgliad bod WEFO wedi sicrhau bod prosesau gwirio cadarn yn eu lle o hyd,
er gwaethaf y bwriad i gyflymu’r broses o gymeradwyo prosiectau a’r broses
wariant cyn Brexit. Mae WEFO wedi atgyfnerthu ei dulliau o ran cymeradwyo
prosiectau, gan ymrwymo arian ar gyfer y prosiectau hynny sy’n bodloni meini
prawf llym ac sy’n cyd-fynd a’i blaenoriaethau strategol yn unig.
Nid yw hi eto’n
glir beth fydd yn disodli cronfeydd strwythurol ar ôl Brexit, ond mae WEFO a
Llywodraeth Cymru yn ehangach yn ceisio llywio’r ddadl. Mae Llywodraeth y DU yn
bwriadu cyflwyno Cronfa Ffyniant a Rennir, ond nid yw wedi amlinellu manylion
allweddol am werth y gronfa na sut y bydd yn gweithredu. Mae Llywodraeth Cymru
wedi amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol buddsoddiad rhanbarthol ac mae
am i reolaeth lawn dros y buddsoddiad hwn a’r cyllid perthnasol gael eu
datganoli.
Mae’r adroddiad yn
nodi 7 o brif faterion i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru eu
rheoli. Mae’r materion hyn yn cynnwys yr angen i drafod sut i gadw sgiliau a
phrofiad WEFO yn wyneb unrhyw gamau i ddisodli cronfeydd strwythurol yr UE ar
ôl ymadael â’r UE.
Trafododd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr
adroddiad yn ystod tymor yr hydref 2018 ac ysgrifennodd at y Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i tynnu eu sylw at yr adroddiad.
Math o fusnes:
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/08/2018