P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru

P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ban Plastic Straws Wales, ar ôl casglu 161 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i wahardd pob eitem blastig untro yng Nghymru. Amcangyfrifir bod y DU ac UDA yn unig yn taflu tua 550 miliwn o wellt plastig bob dydd. Er bod pob un ond yn cael ei ddefnyddio am gyfartaledd o 20 munud yn unig, maent yn cymryd canrifoedd i bydru. Yn ystod ymgyrch lanhau gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol y llynedd, ar gyfartaledd, canfu 138 o ddarnau o wastraff yn gysylltiedig â bwyd a diod ar bob 100m o draethau’r Deyrnas Unedig.

Mae angen atal hyn ac mae angen i’r amgylchedd fod yn flaenoriaeth.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 21/01/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil y camau sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad neu gyfyngiadau ar eitemau plastig defnydd sengl, a chydnabod yr amserlenni sy’n gysylltiedig â chyflwyno gwaharddiad o’r fath.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 25/09/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Sir Drefaldwyn

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Gwelliant

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2018