Siaradwch fy iaith: Goresgyn rhwystrau iaith a chyfathrebu mewn gwasanaethau cyhoeddus
Siaradwch fy iaith: Goresgyn rhwystrau iaith a chyfathrebu mewn gwasanaethau cyhoeddus
Cyhoeddodd
Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad, “Siaradwch
fy iaith”, ym mis Ebrill 2018.
Mae’r adroddiad,
‘Siaradwch fy iaith’, yn crynhoi’r ddeddfwriaeth a’r polisïau perthnasol, ac yn
ystyried sut y mae gwasanaethau cyhoeddus yn sicrhau bod eu gwasanaethau yn
hygyrch i bobl sy’n wynebu rhwystrau o ran iaith a chyfathrebu. Mae’r adroddiad
yn edrych yn benodol ar gynghorau a gwasanaethau iechyd. Mae’n canolbwyntio ar
wasanaethau dehongli a chyfieithu i bobl sy’n fyddar ac sy’n defnyddio iaith
arwyddion a phobl nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg fel prif iaith.
Mae’r
adroddiad yn nodi nifer o heriau o ran darparu gwasanaethau dehongli a
chyfieithu. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi datblygu rhestr wirio o faterion
i’w hystyried wrth gynllunio sut i ddiwallu anghenion pobl nad ydynt yn siarad
Cymraeg na Saesneg. Mae’r rhestr wirio yn ymdrin â phum maes:
- deall anghenion cyfathrebu’r boblogaeth leol;
- polisi a gweithdrefnau;
- canfod gwasanaethau dehongli a chyfieithu;
- hyfforddiant i staff; a
- darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth.
Mae’r
adroddiad yn argymell y dylai cyrff cyhoeddus adolygu’r ffyrdd y maent yn
sicrhau bod gwasanaethau’n hygyrch i bobl sy’n wynebu rhwystrau o ran iaith neu
gyfathrebu drwy ddefnyddio’r rhestr wirio. Mae’n argymell y dylai Llywodraeth
Cymru ystyried ehangu cwmpas y safonau perthnasol sy’n gymwys i’r GIG yng Nghymru
ar hyn o bryd. Mae’n argymell hefyd y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda
chyrff cyhoeddus, grwpiau cynrychioladol ac eraill i ystyried materion sy’n
ymwneud ag argaeledd dehonglwyr yng Nghymru a gweithdrefnau sicrhau ansawdd a
diogelu.
Ystyriodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ganfyddiadau’r
adroddiad hwn ym mis Gorffennaf 2018.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/06/2018
Dogfennau