Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood

 

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad - Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood – ar 12 Mehefin 2018.

Mae’r Adroddiad yn cyflwyno’r ffeithiau sy’n gysylltiedig â’r Cytundeb Cydweithredu a lofnododd y ddau gorff ym mis Chwefror 2014 i hyrwyddo cynyrchiadau teledu a ffilm yng Nghymru. Mae’r adroddiad hefyd yn disgrifio’r digwyddiadau a arweiniodd at ddiddymu’r cytundeb hwnnw, ynghyd â manylion y Cytundeb Gwasanaethau Rheoli olynol a ddechreuodd fis Tachwedd 2017. 

Ystyriodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yr adroddiad yn nhymor yr haf 2018, yn ystod ei ymchwiliad i gynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru.

Bu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn craffu ar Lywodraeth Cymru ar yr Adroddiad ym mis Tachwedd 2018 a chyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ym mis Chwefror 2019. Ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru ar 29 Ebrill 2019 a chynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Mai 2019.

Mae’r Pwyllgor yn parhau i fonitro cynnydd yn erbyn argymhellion yr adroddiad ac ailymwelodd â’r mater ym mis Ionawr 2020 pan roedd rhagor o wybodaeth am gyllid a pherfformiad yn ymwneud â Pinewood ar gael.

Penderfynodd y Pwyllgor y byddai’n addas i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfarthrebu i fonitro’r penderfyniadau polisi yn y dyfodol sy’n ymwneud a stiwdio Pinewood yng Nghaerdydd a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

Llywodraeth Cymru
Andrew Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Jason Thomas – Cyfarwyddwr, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Tim Howard – Dirprwy Gyfarwyddwr Eiddo

5 Tachwedd 2018

Darllen trawsgrifiad o’r sesiwn dystiolaeth

Gwylio’r sesiwn dystiolaeth ar SeneddTV

Mae’r llwyfan yn barod... – Gwyliwch fideo’r Pwyllgor ar gynnwys yr adroddiad yma:

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/ApqGCyVM5Dg

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/06/2018

Dogfennau