Perthynas Cymru ag Ewrop a’r byd yn y dyfodol

Perthynas Cymru ag Ewrop a’r byd yn y dyfodol

Y cefndir

Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad ar berthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Roedd rhan un yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y farn o Gymru o ran yr elfennau allweddol a ddylai fod yn rhan o berthynas rhwng Cymru a'r UE yn y dyfodol. Cafodd yr adroddiad ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Mai 2018.

Rhan Dau

Yn ei gyfarfod ar 21 Mai 2018, cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad Rhan Dau gan ganolbwyntio ar ba rwydweithiau, perthnasau a sefydliadau y dylid eu blaenoriaethu, ac yn hollbwysig sut y gellid cynnal y perthnasau hyn yn y dyfodol.

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd:

  • asesu sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â materion allanol a nodi arfer gorau o rannau eraill o’r byd;
  • archwilio sut y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu ei chysylltiadau allanol yn y dyfodol â sefydliadau, rhanbarthau a rhwydweithiau allweddol Ewrop a/neu ryngwladol, gan gynnwys y gefnogaeth y mae'n ei darparu i gymdeithasau masnach a chymdeithas sifil;
  • archwilio sut y mae trydydd gwledydd a gwledydd a rhanbarthau is-wladwriaeth yn ymgysylltu â'r UE a sefydliadau'r UE, a'r sail dros gydweithredu, er mwyn nodi modelau posibl y gallai Cymru eu mabwysiadu ar ôl Brexit; ac
  • archwilio perthnasau Cynulliad Cenedlaethol Cymru â rhwydweithiau a sefydliadau Ewrop a gwneud argymhellion ar sut y gellid datblygu'r rhain ar ôl Brexit.

Casglu tystiolaeth

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar i lywio ei waith ar y dyddiadau a ganlyn:

Yn ei gyfarfod ar 24 Medi 2018, cytunodd y Pwyllgor i ymgorffori ymchwiliad Cymru yn y Byd yn y gwaith hwn. Arweiniodd cyfnod olaf yr ymchwiliad Cymru yn y Byd at adroddiad rapporteur (PDF, 203KB).

Ddydd Llun 22 Hydref ymwelodd y Pwyllgor â Llundain i gwrdd ag amrywiaeth o randdeiliaid, i drafod perthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei grynodeb rapporteur (PDF, 155KB) o'r ymweliad ar 18 Chwefror 2019.

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Perthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol ddydd Iau 21 Chwefror 2019.

Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"A ninnau ar fin gadael yr UE, mae’n amlwg bod angen strategaeth newydd ar Gymru o ran ymgysylltiad rhyngwladol, i ystyried y newidiadau mawr sydd o’n blaenau. Rydym yn croesawu penodiad Gweinidog ar lefel Cabinet gyda chyfrifoldebau am gysylltiadau rhyngwladol. Fodd bynnag, rydym yn glir bod gan y Gweinidog gryn dipyn o waith i’w wneud o ran diffinio agwedd strategol tuag at ymgysylltiad rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi beth yw blaenoriaethau Cymru, a gweithio gyda phortffolios gweinidogol eraill fel yr economi ac addysg i wneud i hyn ddigwydd.”

Ymateb i’r adroddiad

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 24 Ebrill 2019. Trafodwyd yr adroddiad a’r ymateb yn y Cyfarfod Llawn 1 Mai 2019. Gallwch wylio’r drafodaeth ar Senedd.TV.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2018

Dogfennau