P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

 

Wedi'i gwblhau

P-05-822 Gwahardd gwellt plastig(wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ysgol y Wern ar ôl casglu 1,034 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i [annog Llywodraeth Cymru i] ystyried gwahardd y defnydd o wellt plastig sy'n cael eu defnyddio wrth yfed llaeth yn ein hysgolion. Fel ysgol fawr derbyniwn tua 285 o boteli llaeth (ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) yn ddyddiol gan gynnwys yr un nifer o wellt. Yn sgil yr ymgyrch byd-eang i leihau gwastraff plastig teimlwn fod gwellt plastig yn cael effaith andwyol ar ein hamgylchedd yn enwedig wrth ystyried eu bod yn cael eu defnyddio unwaith ac yna eu taflu. Pe bawn yn parhau gyda'r arfer yma byddai hyn yn arwain at y posibilrwydd fe fydd mwy o blastig yn ein moroedd na physgod erbyn 2050. Y ffaith amdani yw fod yr holl wellt yma yn cyfrannu'n sylweddol at lygru ein moroedd ac mae bywyd gwyllt mewn perygl.

 

Handover

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 21/01/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil y wybodaeth a dderbyniwyd gan y Pwyllgor am y camau sy’n cael eu cymryd i leihau neu ddileu’r defnydd o wellt plastig a bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad neu gyfyngiadau ar eitemau plastig untro yn y dyfodol, a’r amgylchiadau mewn perthynas â chyfyngu ar eu defnydd mewn ysgolion drwy drefniadau lleol a chontractau caffael.

 

Roedd y Pwyllgor hefyd am longyfarch Senedd Ysgol y Wern ar eu defnydd o’r broses ddeisebu a diolch i’r ysgol a’r disgyblion am eu hymgysylltiad trwy gydol ystyriaeth y Pwyllgor o’r mater hwn.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/07/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gogledd Caerdydd

·         Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/06/2018