P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

Wedi'i gwblhau

 

P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan UNISON Neath Port Talbot, ar ôl casglu 334 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

Mae cangen Castell-nedd Port Talbot o UNSAIN yn galw ar i Lywodraeth Cymru wrthdroi’r penderfyniad i dorri cyllid cymorth addysgol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (MEAS) a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr (TES). 

Yn y bôn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi tynnu cyllid ar gyfer y grwpiau hyn yn ôl o dan y grant gwella addysg. Mae ymchwil yn dangos mai plant Roma a Theithwyr sydd â’r cyfraddau cyrhaeddiad isaf o unrhyw grŵp ethnig yng Nghymru, a diben y grant gwella addysg yw cefnogi eu dysgu a gwella cyrhaeddiad. 

Yng Nghastell-nedd Port Talbot mae canran o’r disgyblion yn ein hysgolion yn deithwyr ac yn grwpiau ethnig lleiafrifol sy’n dibynnu ar yr arian hwn; mae Margam a Llansawel yn enghreifftiau o hyn. Mae gan y cyngor dystiolaeth bod gweithwyr cymorth yn darparu gwasanaeth gwych o ran ymgysylltu â’r dysgwyr ‘anodd eu cyrraedd’ hyn. Rydym am i bob person ifanc allu cyrraedd ei botensial ac mae gweithwyr cymorth yn gallu hyrwyddo anghenion pob dysgwr, yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed neu sydd o dan anfantais. Maent yn meithrin perthnasoedd cryf â theuluoedd, ysgolion a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Bydd y gostyngiad yn eu cyllid yn niweidiol ac mae torri swyddi eisoes yn cael ei drafod â’r undebau llafur. Bydd angen talu unrhyw gostau diswyddo o gyllideb sydd eisoes dan bwysau.

Rydym yn annog i Lywodraeth Cymru ymgynghori ag UNSAIN ac awdurdodau lleol. Rhaid i Lywodraeth Cymru gwblhau Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i sicrhau bod arian yn cael ei ddyrannu i’r rhai sydd mewn angen.

 

Dosbarth

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 07/05/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod Llywodraeth Cymru wedi adfer y grant ar gyfer y gwasanaethau hyn yn 2018-19 a 2019-20, a gwaith craffu y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllideb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Grant Gwella Addysg.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/07/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Aberafan

·         Gorllewin de Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/06/2018