Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW)

Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW)

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW) ar ôl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gyhoeddi ei adroddiad ar benderfyniad RIFW i werthu tir ac asedau eiddo o oedd o dan berchnogaeth gyhoeddus (15 Gorffennaf 2015).

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ei ymchwiliad i RIFW (PDF 734KB) yn Ionawr 2016. Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 176KB) ar 8 Mawrth 2016 a dilynwyd hynny gan drafodaeth yn y cyfarfod llawn ar 16 Mawrth 2016.

Argymhellodd y Pwyllgor yn ei Adroddiad Etifeddiaeth fod ei Bwyllgor olynol yn myfyrio ar ganfyddiadau’r ymchwiliad ac yn monitro gweithrediad yr argymhellion gan Lywodraeth Cymru.

Ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor ym mis Tachwedd 2020, gan nodi eu bod wedi cytuno ar setliad ynghylch yr achos cyfreithiol mewn perthynas â Chronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/06/2018

Dogfennau