NDM6735 Dadl Plaid Cymru - Sefydlu cwmni ynni
NDM6735 Dadl Plaid Cymru - Sefydlu cwmni ynni
NDM6735 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig hirsefydlog Plaid Cymru am sefydlu
cwmni ynni sy'n eiddo i'r cyhoedd, Ynni Cymru.
2. Yn nodi ymrwymiad maniffesto Plaid Lafur Cymru 2017 i
gefnogi "creu cwmnïau a chydweithfeydd ynni cyhoeddus, sy’n atebol yn
lleol i gystadlu yn erbyn cyflenwyr ynni preifat presennol, gydag un o leiaf ym
mhob rhanbarth".
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni sy'n
eiddo i'r cyhoedd.
Maniffesto
Llafur Cymru 2017 - Sefyll Cornel Cymru
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 – Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod y gwaith a wnaeth Llywodraeth Cymru gyda
rhanddeiliaid wedi dangos na ddylem fynd ar drywydd cwmni cyflenwi ynni i Gymru
gyfan, ond y dylem yn hytrach barhau i archwilio dulliau eraill o sicrhau
manteision i Gymru yn unol â’r blaenoriaethau a’r targedau sydd wedi’u nodi gan
Lywodraeth Cymru.
Yn cydnabod cyfraniad rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth
Cymru, megis Cartrefi Cynnes, Nyth ac Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd Cymru a’r
rhaglen Byw yn Glyfar o ran creu busnesau ynni dan berchnogaeth leol fel rhan
o’r broses o droi at economi carbon isel.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2021
Angen Penderfyniad: 6 Meh 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS