Amaethyddiaeth a Brexit: Sesiwn Bwyllgor i nodi themâu allweddol
Amaethyddiaeth a Brexit: Sesiwn Bwyllgor i nodi themâu allweddol
Y
cefndir
Trefnodd y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gyfarfod gyda thystion arbenigol
i glywed am y materion allweddol ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru yng
nghyd-destun Brexit.
Roedd y cyfarfod yn gyfle i’r Pwyllgor feithrin
dealltwriaeth well o rai o’r materion amaethyddol allweddol sy’n codi yn sgil
Brexit, a’r bwriad yw prif-ffrydio’r ystyriaethau hyn yn ei waith yn y dyfodol.
Casglu
tystiolaeth
Mae'r Pwyllgor eisoes wedi trafod rhai o'r materion hyn
yn ei adroddiad, Y
Goblygiadau i Gymru yn Sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Cynhaliodd Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad ymchwiliadau i
effaith Brexit ar bysgodfeydd yng
Nghymru ac i fframweithiau
cyffredin y DU ar amaethyddiaeth a'r amgylchedd . Dilynwch y lincs i
ddarllen mwy am y gwaith hwn.
21 Mai 2018 cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau panel
ar effaith Brexit ar amaethyddiaeth.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/05/2018