P-05-819 Enwau Lleoedd Cymru – Bil Diogelu a Hyrwyddo

P-05-819 Enwau Lleoedd Cymru – Bil Diogelu a Hyrwyddo

P-05-819 Enwau Lleoedd Cymru – Bil Diogelu a Hyrwyddo

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Dr Dafydd Williams ac ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf yn ystod Mehefin 2018, ar ôl casglu 431 o lofnodion

Geiriad y ddeiseb

Y Gymraeg yw un o nodweddion amlycaf Cymru, ac mae ein hanes a’n diwylliant wedi’u cydblethu ag un o ieithoedd hynaf Ewrop.

 

Mae mwy a mwy o enwau lleoedd a thai Cymraeg yn cael eu newid i enwau Saesneg. Mae hyn yn arwain at dranc diwylliant lleol ac un o’r elfennau sy’n gwneud Cymru’n unigryw. Mae’r hen enwau Cymraeg hyn yn aml yn ddisgrifiadol a’u gwreiddiau’n ddwfn yn hanes y lle.

Mae cynnal ein hunaniaeth a’n treftadaeth Cymraeg yn bwysig i Gymry Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd.

 

Dylid diogelu hen enwau Cymraeg ar leoedd ac adeiladau o dan y gyfraith, a dylai fod yn orfodol i ddatblygiadau newydd gael enwau Cymraeg er mwyn diogelu ein diwylliant a’n hiaith unigryw. Byddai Cymry Cymraeg, dysgwyr a’r di-Gymraeg yn gwerthfawrogi hyn. Byddai hefyd yn helpu i feithrin ein prif nodwedd unigryw ar lwyfan y byd - rhywbeth y mae twristiaid yn caru ei Enw Lle

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 13/11/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.


Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 19/06/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Arfon
  • Gogledd Cymru

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2018