Ymchwiliad i Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach

Ymchwiliad i Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach

Inquiry5

 

Ystyriodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddull Llywodraeth Cymru o baratoi ar gyfer Brexit mewn perthynas â'r sector Addysg Bellach ac Uwch yng Nghymru. Er mwyn cyfrannu at y gwaith craffu, galwodd y Pwyllgor am dystiolaeth mewn perthynas â'r tair thema eang a ganlyn: canlyniadau dysgwyr a chyflogadwyedd, cynaliadwyedd ariannol a buddsoddi, a chyllid a chydweithredu o ran ymchwil ac arloesi.

Canlyniadau dysgwyr a chyflogadwyedd

  • Edrych ar yr heriau posibl i lwyddiant dysgwyr a’u cyflogadwyedd yn y dyfodol ar ôl Brexit, a holi beth a wneir a beth fydd yn bosibl ei wneud i oresgyn yr heriau hyn.
  • Edrych ar yr effaith bosibl ar y sector yn sgîl unrhyw golled o gynllun symudedd ERASMUS+ yr UE, a deall y cyfleoedd ar gyfer cynlluniau symudedd eraill sy’n bod neu y gellid eu datblygu’n synhwyrol.

Cynaliadwyedd ariannol a chyfleoedd buddsoddi

  • Ystyried yr heriau posibl i gynaliadwyedd ariannol sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch sy’n codi yn sgîl Brexit.
  • Ymchwilio i gysylltiad â chyllid yr UE, o ran cynlluniau buddsoddi sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn y dyfodol, a beth yw’r cyfleoedd ar gyfer ffynonellau cyllid buddsoddi eraill.

Cyllid a chydweithredu o ran ymchwil ac arloesi

  • Ymchwilio i ddibyniaeth sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch ar gyllid ymchwil ac arloesi yr UE yn y dyfodol.
  • Edrych ar beth a wneir, a beth fydd yn bosibl ei wneud, i ddiogelu cydweithrediadau a rhwydweithiau ymchwil yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

 

 

Casglu tystiolaeth

 

Nodyn o'r digwyddiad rhanddeiliaid ar 4 Gorffennaf 2018 (PDF 114KB)

 

Adroddiad

Adroddiad (PDF 899KB) ar yr ymchwiliad i Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach

 

Ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 5.1MB)

 

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at y Gweinidog Addysg yn gofyn am ragor o wybodaeth am yr ymateb (PDF 217KB)

 

Llythyr gan y Gweinidog Addysg yn nodi gwybodaeth ychwanegol (PDF 571KB)

 

Cynhaliwyd y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Mawrth 2019.

 

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/04/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau