Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Ymchwiliad i Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach: Cylch Gorchwyl

 

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystyried dull Llywodraeth Cymru o baratoi ar gyfer Brexit mewn cysylltiad â’r sector Addysg Uwch ac Addysg Bellach yng Nghymru. Er mwyn llywio ein gwaith craffu, rydym yn gofyn am dystiolaeth o ran y tair thema eang ganlynol: canlyniadau dysgwyr a chyflogadwyedd, cynaliadwyedd ariannol a buddsoddi, a chyllid a chydweithredu o ran ymchwil ac arloesi.

 

Canlyniadau dysgwyr a chyflogadwyedd

  • Edrych ar yr heriau posibl i lwyddiant dysgwyr a’u cyflogadwyedd yn y dyfodol ar ôl Brexit, a holi beth a wneir a beth fydd yn bosibl ei wneud i oresgyn yr heriau hyn.
  • Edrych ar yr effaith bosibl ar y sector yn sgîl unrhyw golled o gynllun symudedd ERASMUS+ yr UE, a deall y cyfleoedd ar gyfer cynlluniau symudedd eraill sy’n bod neu y gellid eu datblygu’n synhwyrol.

Cynaliadwyedd ariannol a chyfleoedd buddsoddi

  • Ystyried yr heriau posibl i gynaliadwyedd ariannol sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch sy’n codi yn sgîl Brexit.
  • Ymchwilio i gysylltiad â chyllid yr UE, o ran cynlluniau buddsoddi sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn y dyfodol, a beth yw’r cyfleoedd ar gyfer ffynonellau cyllid buddsoddi eraill.

Cyllid a chydweithredu o ran ymchwil ac arloesi

  • Ymchwilio i ddibyniaeth sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch ar gyllid ymchwil ac arloesi yr UE yn y dyfodol.
  • Edrych ar beth a wneir, a beth fydd yn bosibl ei wneud, i ddiogelu cydweithrediadau a rhwydweithiau ymchwil yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

 

 

Casglu tystiolaeth

 

Nodyn o'r digwyddiad rhanddeiliaid ar 4 Gorffennaf 2018

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/04/2018

Angen Penderfyniad: Meeting Date Yn ôl Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Dogfennau

Ymgynghoriadau

 

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Helpu