P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys Sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys Sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys Sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gangen Brycheiniog a Sir Faesyfed o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, wedi iddi gasglu 2,469 o lofnodion ar-lein a 2,098 ar bapur, sef cyfanswm o 4,567 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau strategol hirdymor i sicrhau bod y diwydiant cynnyrch dofednod yn gynaliadwy yn amgylcheddol drwy gyflwyno Deddf yr Amgylchedd (Cymru), Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) yn effeithiol.

 

Mae gyrwyr amaethyddol pwerus sy'n cael eu hatgyfnerthu gan BREXIT yn cynyddu cynhyrchiad dwys o ran wyau a dofednod.  Mae Llywodraeth Cymru yn anwybyddu'r canlyniadau amgylcheddol difrifol o ran bioamrywiaeth, pridd ac ansawdd dŵr ac afiechydon adar a dynol.  Mae'r cyhoedd yn codi llais ynghylch lles dofednod ond yn anwybodus, ar y cyfan, am effaith amgylcheddol unedau ffermio dofednod dwys.  Mae unedau wyau "maes" gyda chrynhoad o hyd at 2,500 o adar i bob hectar yn risg arbennig (adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru 218: Astudiaeth Peilot Dofednod Powys a rhybuddion nitrogen INI 6/17).

 

Mae cymoedd serth, glawiad uchel sy'n achosi difrod maethol trwm a phoblogaethau o rywogaethau naturiol prin yn gwneud llawer o Gymru wledig yn hollol anaddas ar gyfer y ffrwydrad presennol o unedau ffermio dofednod dwys.  Ar ôl gostyngiad yn 1990, mae allyriadau amonia wedi bod yn cynyddu ers 2010 (adroddiad Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol 2017 ar gyfer DEFRA).  Mae llwythau critigol o ddyddodiadau amonia a nitrogen (trothwyon amcangyfrifedig o ran niwed annerbyniol i amrywiaeth planhigion) yn llawer uwch mewn rhai safleoedd gwarchodedig Ewropeaidd a'r DU, Gwarchodfeydd Natur Lleol a Choetiroedd Hynafol.  Mae ffosffadau gormodol yn bygwth ein cyrsiau dŵr (Sefydliad Gwy a Wysg 2017).

 

Wrth fethu â gweithredu ar y dystiolaeth, mae Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Powys yn esgeuluso'r ddyletswydd i "gynnal a gwella bioamrywiaeth" (Deddf yr Amgylchedd Adran 6).

Rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i reoli'r diwydiant:

 

1)   Darparu adnoddau priodol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud ymchwil brys, rheoleiddio a monitro unedau dwys a rhoi gwell cymorth cynllunio i Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl).

2)   Cyhoeddi polisi cynllunio ac arweiniad i ACLl i wella penderfyniadau, sicrhau bod effeithiau cronnus yn cael eu hystyried a monitro a gorfodi amodau cynllunio.

3)   Gwneud i'r diwydiant gyfrannu tuag at gostau rheoleiddio a monitro a'i ddwyn i gyfrif am dorri cyfrifoldeb amgylcheddol.

4)   Cyhoeddi adroddiadau cyhoeddus tryloyw ar gynnydd.

 

Gwybodaeth Ychwanegol
O Bowys y daw ein tystiolaeth, ond mae ein deiseb yn berthnasol i Gymru gyfan.

 

Mae'r Cadeirydd, Diane McCrea, yn cadarnhau nad oes gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddigon o adnoddau (BBC 14/12/17).  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn asesu effeithiau ceisiadau Unedau Dofednod ar safleoedd natur Ewropeaidd a'r DU ac yn cyhoeddi trwyddedau ar gyfer unedau o dros 40,000 o adar.  Mae canllawiau gwell Cyfoeth Naturiol Cymru (Ebrill 2017) yn cwmpasu effeithiau cronnol ond mae dulliau asesu yn methu â rhwystro datblygiad lle mae llwythi yn uwch na'r llwyth critigol presennol.

 

Mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn asesu disgrifiad priodol o wasgariad ac effeithiau ar ansawdd dŵr, ansawdd aer, Gwarchodfeydd Natur Lleol, Coetiroedd Hynafol, tirwedd, amwynderau preswyl a thraffig lleol.

 

Nid oes gan Awdurdodau Cynllunio Lleol y sgiliau a'r adnoddau ar gyfer y cyfrifoldebau hyn.  Nid yw Cyngor Sir Powys yn ystyried effaith gronnus ceisiadau, ynghyd â'r holl Unedau cyfagos, ar yr amgylchedd naturiol, tirwedd neu drigolion gwledig.  Dylai Atodlen 2 Asesiad Effaith Amgylcheddol sicrhau bod yr effeithiau cronnus yn cael eu hasesu ond mae hyn yn methu yn ymarferol.  Mae Cyngor Sir Powys yn amharod i ddyfarnu statws AEA oherwydd y gall Llywodraeth Cymru wyrdroi'r penderfyniad (gweler P/2016/0608 a P/2017/0007).

Mae gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig ddata ar geisiadau cynllunio dofednod dwys ym Mhowys ers 2011.  Yn ystod y 30 mis diwethaf, bu 99 o GEISIADAU yn cynnwys dros  DAIR MILIWN O ADAR, gyda 72 ohonynt ar gyfer wyau maes.  O'r 99, dim ond 10 sydd â statws AEA: Mae 65 o geisiadau wedi'u cymeradwyo a DIM OND UN A WRTHODWYD.

 

Mae gennym dystiolaeth o ddatblygiadau a gymeradwywyd heb fapio gwasgariad cyfuchlinellau neu wasgariad awyr agored, yn agos at warchodfeydd natur (71m), coetiroedd hynafol bregus (cyfagos) cyrisau dŵr (10m) a thrigolion (50m). Mae trigolion yn dioddef risgiau iechyd o bryfed, amonia yn yr awyr, llwch dofednod, gronynnau a gynhyrchir gan draffig ac arogleuon tramgwyddus. Anwybyddir gwrthwynebiadau rhanddeiliaid amgylcheddol a chyhoeddus, mae rhywogaethau planhigion prin yn marw, mae risgiau o glefydau yn cynyddu ac mae cyrsiau dŵr yn methu safonau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

 

DIGON YW DIGON: Gellir gweld cyfres unigryw o DDATA UNEDAU DOFEDNOD DWYS POWYS gan gynnwys ceisiadau, map rhyngweithiol, map o fannau trafferthus ac arddangosfa animeiddiedig o dwf cronolegol yr Unedau Dofednod Dwys yn http://www.brecon-and-radnor-cprw.wales/?page_id=13.

Title: Cyw iâr

Statws

Yn ei gyfarfod ar 23/07/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth bellach, a nododd fod y gwaith yn mynd rhagddo i adolygu – a phan fydd cyfleoedd yn cael eu nodi, cryfhau – gofynion cynllunio sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth ddwys. Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r pryderon difrifol a fynegwyd gan y deisebwyr trwy gydol y broses hon ond daeth i'r casgliad – yn wyneb yr ymatebion a gafwyd gan y Gweinidog, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebwyr – mai prin iawn yw’r hyn y gallai ei gyflawni ymhellach ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac ysgrifennu at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn a all barhau i fonitro datblygiadau fel rhan o'u gwaith ynghylch defnydd tir a bioamrywiaeth.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 05/06/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

·         Brycheiniog a Sir Faesyfed

  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/05/2018