P-05-814 Pob adeilad newydd yng Nghymru i gael paneli solar

P-05-814 Pob adeilad newydd yng Nghymru i gael paneli solar

Wedi'i gwblhau

P-05-814 All New Pob adeilad newydd yng Nghymru i gael paneli solar

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Harriet King, ar ôl casglu 72 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

Sicrhau y caiff paneli solar eu gosod ar bob tŷ sy'n cael ei adeiladu o'r newydd yng Nghymru er mwyn gwella ein hôl troed carbon a helpu'r amgylchedd.

 

Title: Paneli Solar

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/05/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Dyffryn Clwyd
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/05/2018