NDM6703 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6703 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6703 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r argyfwng cynyddol o ran recriwtio athrawon mewn
ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi
gwneud digon hyd yma i fynd i'r afael ag achosion hyn.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor y
Gweithlu Addysg i ddatblygu cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol i Gymru, er
mwyn:
a) dileu rhwystrau diangen i recriwtio athrawon a
hyfforddwyd dramor;
b) cydnabod sgiliau athrawon profiadol a llwyddiannus
sy'n gweithio mewn colegau addysg bellach, ac mewn ysgolion annibynnol a
cholegau, drwy roi statws athrawon cymwysedig iddynt; ac
c) sefydlu llwybrau i addysgu ar gyfer cynorthwywyr
cymorth addysgu profiadol yng Nghymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/04/2018
Angen Penderfyniad: 18 Ebr 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd