Craffu ar Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru

Craffu ar Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru

 

 

Ymgymerodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig (y Pwyllgor) â gwaith ar Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (y Fframwaith) drafft Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r Fframwaith yn ddogfen gynllunio ofodol sy’n ofynnol o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (y Ddeddf Gynllunio).

 

Mae’r Ddeddf Gynllunio yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddatblygu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Mae’r Fframwaith Drafft yn nodi fframwaith defnydd tir am gyfnod o ugain mlynedd, a chaiff ei adolygu bob pum mlynedd o leiaf. Mae’r ddogfen yn bolisi allweddol sydd yn gosod polisi gofodol cenedlaethol, yn cyfarwyddo Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol, ac yn llywio proses Llywodraeth Cymru o wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio o bwys.

 

Ym mis Awst 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft at ddibenion ymgynghoriad.

Gweithiodd y Pwyllgor ar y Fframwaith Drafft yn gynnar yn y broses, gyda'r bwriad o ddylanwadu ar ei gynnwys, a llywio ystyriaeth y Senedd o’r drafft yn y dyfodol.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, ac yn unol â'r gofynion yn y Ddeddf Gynllunio, gosodwyd y Fframwaith Drafft gerbron y Senedd i'w ystyried am gyfnod o 60 diwrnod ('cyfnod ystyried y Senedd') cyn iddo gael ei gwblhau yn derfynol. 

Gosododd Llywodraeth Cymru ail iteriad y Fframwaith Drafft gerbron y Senedd ar 21 Medi 2020 ynghyd â’r dogfennau a ganlyn:

 

·         Rhestr o’r Newidiadau i ddrafft y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

 

·         Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig o’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

 

·         Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig o’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: Crynodeb Annhechnegol

 

·         Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru - Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

 

·         Drafft y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Adroddiad yr Ymgynghoriad (llawn)

 

·         Drafft y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Adroddiad Ymgynghori: Crynodeb

 

Mae copi o’r Fframwaith Drafft sy’n ymgorffori’r newidiadau arfaethedig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r Ddeddf Gynllunio yn nodi’r darpariaethau a ganlyn sy’n ymwneud â’r Fframwaith:

 

·         Yn ôl Adran 3(4), mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw benderfyniad a gaiff ei wneud gan y Senedd mewn Cyfarfod Llawn ac unrhyw argymhelliad a wneir gan un o bwyllgorau’r Senedd yn ystod y cyfnod craffu o 60 diwrnod.

 

·         Wedi i’r cyfnod craffu o 60 diwrnod ddod i ben, caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi fersiwn derfynol, heb ei diwygio, o’r Fframwaith  Datblygu Cenedlaethol. Fodd bynnag, os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu diwygio’r Fframwaith drafft, byddant yn gosod drafft diwygiedig gerbron y Senedd  ac yn ei gyhoeddi.

 

·         Os bydd y Senedd, neu unrhyw un o’i phwyllgorau, yn cytuno ar unrhyw benderfyniad neu’n gwneud unrhyw argymhelliad yn ystod y cyfnod craffu, rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad, dim hwyrach na’r diwrnod y caiff y Fframwaith ei gyhoeddi, yn esbonio sut y maent wedi ystyried pob penderfyniad neu argymhelliad.

 

Casglu tystiolaeth

 

I lywio ei waith ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft cyntaf ystyriodd y Pwyllgor gyflwyniadau ysgrifenedig a bu’n gwrando ar dystiolaeth lafar gan randdeiliaid yn ystod ei gyfarfodydd ar 24 Hydref 2019, 6 Tachwedd 2019 ac 14 Tachwedd 2019.

 

Gwahoddodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig a chlywodd dystiolaeth lafar gan randdeiliaid yn ystod cyfarfodydd ar 15 Hydref 2020 a 5 Tachwedd 2020 i lywio ei waith ar ail iteriad y Fframwaith Drafft.

 

Adroddiad Cyntaf y Pwyllgor

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft ar 13 Rhagfyr 2019 (PDF 1MB).

Ymatebodd (PDF 350KB) Llywodraeth Cymru ar 29 Ionawr 2020 a rhoddodd ymateb pellach (PDF 608KB) ar 21 Medi 2020.

 

Ail Adroddiad y Pwyllgor

 

Ystyriodd y Pwyllgor y newidiadau arfaethedig i’r Fframwaith Drafft a chyflwynodd  adroddiad i’r Senedd cyn diwedd y cyfnod 60 diwrnod.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar ail iteriad y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft: Cymru’r Dyfodol Y Cynllun Cenedlaethol 2040 (PDF 290KB) ar 23 Tachwedd 2020.

 

Ar 24 Chwefror 2021 ysgrifennodd (PDF 332KB) y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd i'w hysbysu ei bod wedi cyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru 'Dyfodol Cymru – Cynllun Cenedlaethol 2040' a gosododd Ddatganiad i’r Senedd  (PDF 961KB) a oedd yn cynnwys ymateb i argymhellion y Pwyllgor.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Math o fusnes: Deddfwriaeth

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/05/2018

Dogfennau